Y Llys Gweinyddol

Beth yw profiant?

Pan fydd person yn marw, rhaid i rywun ddelio â’u hystad (yr arian, yr eiddo a’r meddiannau y mae’r person wedi’u gadael) drwy gasglu'r holl arian at ei gilydd, talu unrhyw ddyledion a dosbarthu'r hyn sy'n weddill i'r bobl sydd â hawl iddo. Awdurdod y llys yw profiant; a roddir i berson neu bersonau i weinyddu ystad person sydd wedi marw, a'r Grant Cynrychiolaeth yw enw'r ddogfen a roddir gan y Gwasanaeth Profiant. Fel arfer mae'r rhai sy'n dal yr asedau yn gorfod cael y ddogfen hon fel prawf i ddangos bod y person neu'r personau iawn wedi cael caniatâd y Gwasanaeth Profiant i weinyddu ystad yr ymadawedig.

Beth yw'r Gwasanaeth Profiant?

Mae’r Gwasanaeth Profiant yn rhan o Adran Teulu yr Uchel Lys. Mae'n delio gyda busnes profiant 'di-gynnen' (lle nad oes anghydfod am ddilysrwydd ewyllys neu hawl i gael grant), ac yn rhoi grantiau cynrychiolaeth, naill ai:

  • Profiant (pan fo’r ymadawedig wedi gadael ewyllys ddilys a bod ysgutor yn gweithredu)
  • Llythyrau gweinyddu gydag ewyllys (pan fo person wedi gadael ewyllys ddilys ond lle nad oes ysgutor yn gweithredu)
    Neu
  • Llythyrau Gweinyddu (fel arfer pan nad oes ewyllys ddilys).

Mae'r grantiau hyn yn penodi pobl a elwir yn gynrychiolwyr personol i weinyddu ystad yr ymadawedig.

Strwythur presennol y Gwasanaeth Profiant

Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Profiant yn cynnwys:

  • Y Brif Gofrestrfa yn Llundain
  • 11 o Gofrestrfeydd Profiant Dosbarth
  • 18 o Is-gofrestrfeydd Profiant ar draws Cymru a Lloegr

Mae nifer o "swyddfeydd" profiant hefyd (fel arfer ystafell mewn llys neu adeilad awdurdod lleol) lle bydd staff, yn ôl yr angen, yn mynychu i ganiatáu i geisyddion personol fynychi i dyngu llw.

Dod o hyd i Gofrestrfa Brofiant

Sgamiau Profiant

Byddwch yn ymwybodol y ceir nifer o sgamiau Profiant dros y Rhyngrwyd ar hyn o bryd. Bydd llawer o’r rhain yn dweud wrthych eich bod yn fuddiolwr cymynrodd sylweddol ond byddant yn gofyn am ffioedd a/neu drethi cyn anfon rhagor o wybodaeth atoch neu ryddhau’r arian.

Bydd y rhain bob amser yn gynlluniau twyllodrus ac ni ddylech dalu na throsglwyddo unrhyw arian ar unrhyw gyfrif. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch sgamiau o’r fath ar www.met.police.uk/fraudalert. Gallwch gael gwybodaeth hefyd am roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiad o’r fath, gan y gallai’r heddlu gau’r cyfrifon e-bost dan sylw.

HM Courts & Tribunals Service

Contact

Get email alerts
Find a form
Find a court form