CYFARWYDDYD YMARFER 54D – HAWLIADAU LLYS CYNLLUNIO

Adran I - Cyffredinol

1.1       Mae’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn atodol i Ran 54. Mae’n berthnasol i hawliadau yn y Llys Cynllunio.

1.2       Yn y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn, mae adolygiad statudol cynllunio yn golygu adolygiad o dan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 1.1(a) – (e) yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 8C.

Adran II – Sut i ddechrau hawliad Llys Cynllunio

2.1       Rhaid i hawliadau Llys Cynllunio gael eu ffeilio yn Swyddfa Llys Gweinyddol yr Uchel Lys yn unol â Chyfarwyddyd Ymarfer 54C.

2.2       Rhaid marcio’r ffurflen gyda “Llys Cynllunio”.

Adran III – Categoreiddio hawliadau Llys Cynllunio

3.1       Gall y Barnwr Cyswllt Cynllunio gategoreiddio hawliadau Llys Cynllunio fel rhai “arwyddocaol”.

3.2       Mae hawliadau Llys Cynllunio arwyddocaol yn cynnwys rhai—

(a) sy’n ymwneud â datblygiadau masnachol, preswyl neu ddatblygiadau eraill a gafodd effaith economaidd arwyddocaol yn lleol neu y tu allan i’r ardal leol;

(b) sy’n codi pwyntiau cyfraith pwysig;

(c) sy’n creu diddordeb cyhoeddus sylweddol; neu

(d) oherwydd maint neu natur y deunydd technegol, y byddai’n well i farnwyr gyda phrofiad helaeth o ymdrin â materion o’r fath ddelio gyda nhw.

3.3       Rhaid i barti sydd am wneud sylwadau am gategoreiddio hawliad Llys Cynllunio wneud hynny’n ysgrifenedig, wrth ffeilio’r hawliad neu ffeilio cydnabyddiad cyflwyno, pa bynnag un sy’n briodol.

3.4       Mae’r amseroedd targed ar gyfer gwrando hawliadau Llys Cynllunio arwyddocaol (yn ôl y diffiniad yn para. 3.2), y dylai’r partïon fod yn barod i gadw atynt, fel a ganlyn, yn amodol i’r nod blaenoriaethol o sicrhau buddiannau cyfiawnder—

(a) dylai ceisiadau am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol neu adolygiad statudol cynllunio gael eu penderfynu o fewn tair wythnos i ddiwedd y terfyn amser ar gyfer ffeilio’r cydnabyddiad cyflwyno;

(b) dylai ceisiadau llafar drachefn am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol neu adolygiad statudol cynllunio gael eu gwrando o fewn un mis i dderbyn y cais drachefn;

(c) dylai ceisiadau am ganiatâd o dan Adran 289 o Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref 1990 gael eu penderfynu o fewn un mis i’w ffeilio;

(d) dylai adolygiadau statudol cynllunio gael eu gwrando o fewn chwe mis i’w ffeilio; a

(e) dylai adolygiadau barnwrol gael eu gwrando o fewn 10 wythnos i ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno seiliau manwl gan y diffynnydd neu unrhyw barti arall, fel y darperir o dan Reol 54.14.

3.5       Gall y Llys Cynllunio wneud cyfarwyddiadau rheoli achos, gan gynnwys cyfarwyddyd bod unrhyw barti sy’n bwriadu herio’r hawliad yn ffeilio a chyflwyno crynodeb o’i seiliau dros wneud hynny.

3.6       Er gallai hawliad Llys Cynllunio gael ei gategoreiddio fel un arwyddocaol neu beidio o dan baragraff 3.1, gallai’r Barnwr Cyswllt Cynllunio gyfarwyddo i gyflymu unrhyw hawliad Llys Cynllunio os yw’n ystyried bod angen gwneud hynny i ddelio’n gyfiawn â’r achos.

Contact

Get email alerts
Find a form
Find a court form