CYFARWYDDIADAU YMARFER AR DDEFNYDDIOR IAITH GYMRAEG MEWN ACHOSION YN Y LLYSOEDD SIFIL YNG NGHYMRU
DIBEN Y CYFARWYDDIADAU YMARFER HYN YW ADLEWYRCHU EGWYDDOR DEDDF YR IAITH GYMRAEG 1993 SEF Y DYLID TRIN Y GYMRAEG AR SAESNEG YN GYFARTAL WRTH WEINYDDU CYFIAWNDER YNG NGHYMRU.
1. CYFFREDINOL
1.1 Maer cyfarwyddiadau ymarfer hyn yn berthnasol i achosion sifil mewn llysoedd yng Nghymru.
1.2 Bydd yr ymarfer presennol o gynnal gwrandawiad yn gyfan gwbl yn y Gymraeg ar sail ad hoca heb rybudd yn parhaun ddilys pan fo pob parti a phob tyst syn ymwneud yn uniongyrchol âr achos ar y pryd yn cytuno iddo gael ei gynnal felly.
1.3 Ym mhob achos lle y bydd tyst neu barti o bosibl am ddefnyddior Gymraeg [neu lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg mewn unrhyw ddogfen a gyflwynir gerbron y llys], cyfrifoldeb y parti neu ei gynrychiolwyr cyfreithiol yw hysbysur llys o hyn fel y gellir gwneud trefniadau priodol ar gyfer trin a rhestrur achos.
1.4 Os achosir costau yn sgil methu â chydymffurfio âr Cyfarwyddiadau hyn, gellir codi gorchymyn costau yn erbyn y parti neu ei gynrychiolydd cyfreithiol.
1.5 Pan fydd achos yn cael ei brofi gyda rheithgor, nid ywr gyfraith yn caniatáu dethol rheithgor mewn modd syn galluogir Llys i ganfod a yw Rheithiwr yn siarad Cymraeg ai peidio nac i sicrhau Rheithgor y mae ei aelodau yn ddwyieithog i wrando achos lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg. 2. YR HOLIADUR DYRANNU
2.1 Mewn unrhyw achos lle y mae gofyn i barti lenwi holiadur dyrannu, rhaid iddo gynnwys manylion ynghylch defnydd posibl or Gymraeg, h.y. manylion unrhyw berson a ddymunai roi tystiolaeth lafar yn y Gymraeg ac unrhyw ddogfennau yn y Gymraeg (e.e. dogfennau iw datgelu o dan Ran 31 neu ddatganiadau tystion) y maer parti hwnnwn disgwyl eu defnyddio.
2.2 Rhaid i barti gynnwys y manylion a nodir ym mharagraff (2.1) yn yr holiadur dyrannu, hyd yn oed os yw ef eisoes wedi hysbysur llys am ddefnydd posibl or Gymraeg yn unol â gofynion adran 1 uchod. 3. RHEOLI ACHOSION
3.1 Mewn unrhyw wrandawiad yng nghwrs achos bydd y llys yn manteisio ar y cyfle i ystyried a ddylai roi cyfarwyddiadau rheoli achos. I gynorthwyor llys, dylai parti neu ei gynrychiolydd cyfreithiol dynnu sylwr llys at y posibilrwydd y gallair Gymraeg gael ei defnyddio yn yr achos, hyd yn oed os yw ef eisoes wedi gwneud hynny wrth gydymffurfio â gofynion eraill y cyfarwyddiadau hyn.
3.2 Mewn unrhyw achos pan fydd gofyn i barti lenwi holiadur rhestru ar parti hwnnw eisoes wedi nodi ei fwriad i ddefnyddior Gymraeg, dylai gadarnhau ei fwriad i ddefnyddior Gymraeg yn yr holiadur rhestru, a rhoi unrhyw fanylion na chafodd eu nodi yn yr holiadur dyrannu. 4. RHESTRU GAN Y LLYS
4.1 Bydd rheolwr y dyddiadur, mewn ymgynghoriad âr Barnwr Sifil Dynodedig, yn sicrhau y bydd achos lle y defnyddir y Gymraeg yn cael ei restru:
- pryd bynnag y bydd hynnyn ymarferol bosib, gerbron barnwr Cymraeg ei iaith; a
- lle y bo angen cyfleusterau cyfieithu, mewn llys gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
5. CYFIEITHWYR
5.1 Pryd bynnag y bydd angen cyfieithydd i gyfieithu tysiolaeth or Saesneg ir Gymraeg neu or Gymraeg ir Saesneg, bydd Rheolwr y Llys lle y cynhelir yr achos yn sicrhau y trefnir i gyfieithydd, y mae ei enw ar restr y llys o gyfieithwyr cymeradwy, fod yn bresennol. 6. TYSTION A RHEITHWYR
6.1 Wrth i bob tyst gael ei alw, bydd y swyddog llys syn gweinyddur llw neur cadarnhad yn hysbysur tyst y gall ef dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.
6.2 Pan gaiff achos ei brofi gan reithgor, bydd y swyddog llys syn gweinyddu llwon y rheithwyr yn hysbysur rheithwyr mewn llys agored y caiff pob rheithiwr dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad. 7. RÔL Y BWRNWR CYSWLLT
7.1 Os cyfyd unrhyw gwestiwn neu broblem ynghylch gweithredur cyfarwyddiadau uchod, dylid yn y lle cyntaf gysylltu âr Barnwr Cyswllt dros faterion y Gymraeg ar y Gylchdaith.