CYFARWYDDIADAU YMARFER AR
DDEFNYDDIO'R IAITH GYMRAEG MEWN ACHOSION
YN Y LLYSOEDD SIFIL YNG NGHYMRU


DIBEN Y CYFARWYDDIADAU YMARFER HYN YW ADLEWYRCHU EGWYDDOR DEDDF YR IAITH GYMRAEG 1993 SEF Y DYLID TRIN Y GYMRAEG A'R SAESNEG YN GYFARTAL WRTH WEINYDDU CYFIAWNDER YNG NGHYMRU.

1.  CYFFREDINOL

1.1 Mae'r cyfarwyddiadau ymarfer hyn yn berthnasol i achosion sifil mewn llysoedd yng Nghymru.
1.2 Bydd yr ymarfer presennol o gynnal gwrandawiad yn gyfan gwbl yn y Gymraeg ar sail ad hoc a heb rybudd yn parhau'n ddilys pan fo pob parti a phob tyst sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r achos ar y pryd yn cytuno iddo gael ei gynnal felly.
1.3 Ym mhob achos lle y bydd tyst neu barti o bosibl am ddefnyddio'r Gymraeg [neu lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg mewn unrhyw ddogfen a gyflwynir gerbron y llys], cyfrifoldeb y parti neu ei gynrychiolwyr cyfreithiol yw hysbysu'r llys o hyn fel y gellir gwneud trefniadau priodol ar gyfer trin a rhestru'r achos.
1.4 Os achosir costau yn sgil methu â chydymffurfio â'r Cyfarwyddiadau hyn, gellir codi gorchymyn costau yn erbyn y parti neu ei gynrychiolydd cyfreithiol.
1.5 Pan fydd achos yn cael ei brofi gyda rheithgor, nid yw'r gyfraith yn caniatáu dethol rheithgor mewn modd sy'n galluogi'r Llys i ganfod a yw Rheithiwr yn siarad Cymraeg ai peidio nac i sicrhau Rheithgor y mae ei aelodau yn ddwyieithog i wrando achos lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg.

2.  YR HOLIADUR DYRANNU

2.1 Mewn unrhyw achos lle y mae gofyn i barti lenwi holiadur dyrannu, rhaid iddo gynnwys manylion ynghylch defnydd posibl o'r Gymraeg, h.y. manylion unrhyw berson a ddymunai roi tystiolaeth lafar yn y Gymraeg ac unrhyw ddogfennau yn y Gymraeg (e.e. dogfennau i'w datgelu o dan Ran 31 neu ddatganiadau tystion) y mae'r parti hwnnw'n disgwyl eu defnyddio.
2.2 Rhaid i barti gynnwys y manylion a nodir ym mharagraff 2.1 yn yr holiadur dyrannu, hyd yn oed os yw ef eisoes wedi hysbysu'r llys am ddefnydd posibl o'r Gymraeg yn unol â gofynion adran 1 uchod.

3.  RHEOLI ACHOSION

3.1 Mewn unrhyw wrandawiad yng nghwrs achos bydd y llys yn manteisio ar y cyfle i ystyried a ddylai roi cyfarwyddiadau rheoli achos. I gynorthwyo'r llys, dylai parti neu ei gynrychiolydd cyfreithiol dynnu sylw'r llys at y posibilrwydd y gallai'r Gymraeg gael ei defnyddio yn yr achos, hyd yn oed os yw ef eisoes wedi gwneud hynny wrth gydymffurfio â gofynion eraill y cyfarwyddiadau hyn.
3.2 Mewn unrhyw achos pan fydd gofyn i barti lenwi holiadur rhestru a'r parti hwnnw eisoes wedi nodi ei fwriad i ddefnyddio'r Gymraeg, dylai gadarnhau ei fwriad i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr holiadur rhestru, a rhoi unrhyw fanylion na chafodd eu nodi yn yr holiadur dyrannu.

4.  RHESTRU GAN Y LLYS

4.1 Bydd rheolwr y dyddiadur, mewn ymgynghoriad â'r Barnwr Sifil Dynodedig, yn sicrhau y bydd achos lle y defnyddir y Gymraeg yn cael ei restru:
  1. pryd bynnag y bydd hynny'n ymarferol bosib, gerbron barnwr Cymraeg ei iaith; a

  2. lle y bo angen cyfleusterau cyfieithu, mewn llys gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd.

5.  CYFIEITHWYR

5.1 Pryd bynnag y bydd angen cyfieithydd i gyfieithu tysiolaeth o'r Saesneg i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg i'r Saesneg, bydd Rheolwr y Llys lle y cynhelir yr achos yn sicrhau y trefnir i gyfieithydd, y mae ei enw ar restr y llys o gyfieithwyr cymeradwy, fod yn bresennol.

6.  TYSTION A RHEITHWYR

6.1 Wrth i bob tyst gael ei alw, bydd y swyddog llys sy'n gweinyddu'r llw neu'r cadarnhad yn hysbysu'r tyst y gall ef dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.
6.2 Pan gaiff achos ei brofi gan reithgor, bydd y swyddog llys sy'n gweinyddu llwon y rheithwyr yn hysbysu'r rheithwyr mewn llys agored y caiff pob rheithiwr dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.

7.  RÔL Y BWRNWR CYSWLLT

7.1 Os cyfyd unrhyw gwestiwn neu broblem ynghylch gweithredu'r cyfarwyddiadau uchod, dylid yn y lle cyntaf gysylltu â'r Barnwr Cyswllt dros faterion y Gymraeg ar y Gylchdaith.


Return to the Practice Directions Index