HMI Prisons

Croeso i wefan Arolygiaethau’r Swyddfa Gartref
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yn arolygiaethau annibynnol a ariennir gan y Swyddfa Gartref.

Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth am yr arolygiaethau ac yn dogfennu canfyddiadau eu harolygiadau.

Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn cynnal arolygiadau o sefydliadau a swyddogaethau’r heddlu ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd plismona yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi
Mae Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yn cyflwyno adroddiadau ar gyflwr a thriniaeth y rhai mewn carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc a chanolfannau symud mewnfudwyr.

Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi
Mae Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn cynnal arolygiadau o waith a pherfformiad y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Thimau Troseddau Ieuenctid yng Nghymru a Lloegr.

Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i siaradwyr Cymraeg yn yr iaith o’u dewis. Mae’r wefan hon yn rhan o’r broses honno.

Nid yw’r adran Gymraeg yn cyfateb yn uniongyrchol i’r wefan Saesneg gan ei bod wedi’i chynllunio’n bwrpasol fel ei bod yn cynnwys gwybodaeth sy’n benodol i Gymru a phobl Cymru’n gyffredinol. Fel yn achos pob gwefan, mae’r adran hon yn cael ei datblygu a’i diweddaru’n barhaus, a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hychwanegu, fel y bydd yn dod ar gael.

HM Inspectorate of Prisons

Contact

Get email alerts
Find a form
Find a court form