|
CYFARWYDDYD YMARFER |
|
MATERION YN YMWNEUD Â DATGANOLI |
|
|
|
RHENNIR Y CYFARWYDDYD YMARFER HWN YN 3 RHAN: |
Rhan I |
Cyflwyniad |
Rhan II |
Cyfarwyddiadau perthnasol i bob achos |
Rhan III |
Cyfarwyddiadau perthnasol i achosion penodol |
Rhan IV |
Apeliadau |
|
1 |
Yn y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn -
golyga y Cynulliad Gynulliad Cenedlaethol Cymru
golyga DLlC Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
golyga DGI Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998
golyga DA Ddeddf yr Alban 1998
golyga y Deddfau DLlC, DGI a DA
golyga y Pwyllgor Barnwrol Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin-Gyngor
golyga RhTS Reolau Trefn Sifil 1998
golyga RhAT Reolau Achosion Teulu 1991
golyga LlAT Reolau Llysoedd Achosion Teulu (Deddf Plant 1989) 1991
mae gan mater datganoli yr un ystyr ag ym mharagraff 1, atodlen 8 DLlC; paragraff 1, atodlen 10 DGI; a pharagraff 1, atodlen 6 DA
golyga rhybudd mater datganoli rybudd bod mater datganoli wedi codi mewn achos
|
2.1 |
Maer Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn ategur darpariaethau syn delio â materion datganoli yn y Deddfau. Maen delion benodol âr sefyllfa os yw mater datganolin codi o dan DLlC. Os yw mater datganolin codi o dan DGI neu DA dylid addasur drefn a osodir yn y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn fel y bor angen.
|
3.1 |
Mae atodlen 8 DLlC yn cynnwys darpariaethaun delio â materion datganoli syn deillio o DLlC; mae atodlen 10 DGI yn cynnwys darpariaethaun delio â materion datganolin deillio o DGI; ac mae atodlen 6 DA yn cynnwys darpariaethaun delio â materion datganolin deillio o DA.
|
|
3.2 |
Yn gyffredinol bydd mater datganolin ymwneud ag a yw corff datganoledig wedi gweithredu neun bwriadu gweithredu o fewn ei bwerau (syn cynnwys peidio â gweithredun anghydnaws â hawliau Confensiwn 1 a deddf Cymuned 2) neu wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodwyd arno. Dylid cyfeirio at y Deddfau lle caiff mater datganoli ei ddiffinio.
|
|
3.3 |
(1) |
Os yw mater datganoli o dan DLlC yn codi mewn achos, rhaid ir llys orchymyn bod rhybudd ohono yn cael ei roi ir Twrnai Cyffredinol ac ir Cynulliad os nad ydynt eisoes yn barti. Mae ganddynt hawl i gymryd rhan fel parti yn yr achos ir graddau y maent yn berthnasol i fater datganoli, os nad ydynt eisoes yn barti (paragraff 5, atodlen 8 i DLlC). Os ydynt yn cymryd rhan, gallant fynnu bod y llys yn cyfeirior mater datganoli ir Pwyllgor Barnwrol (paragraff 30, atodlen 8 DLlC) 3.
|
(2) |
Ceir darpariaethau tebyg yn DGI a DA er bod y personau iw hysbysun wahanol (paragraffau 13, 14, a 33, atodlen 10 DGI; paragraffau 16, 17 a 33, atodlen 6 DA).
|
|
|
3.4 |
O dan yr holl Ddeddfau gall y llys gyfeirio mater datganoli i lys arall fel a ganlyn:
(1) |
Gall llys ynadon gyfeirio mater datganolin codi o achos sifil neu ddiannod ir Uchel Lys (paragraffau 6 a 9, atodlen 8 DLlC; paragraffau 15 ac 18, atodlen 10 DGI; a pharagraffau 18 a 21, atodlen 6 DA).
|
(2) |
Gall Llys y Goron gyfeirio mater datganolin codi mewn achos diannod ir Uchel Lys a mater datganolin codi mewn achosion ar dditiad ir Llys Apêl (paragraff 9, atodlen 8 DLlC; paragraff 18, atodlen 10 DGI, paragraff 21, atodlen 6 DA).
|
(3) |
Gall llys sirol, yr Uchel Lys (oni bai bod y mater datganoli wedi ei gyfeirio ir Uchel Lys) 4, a Llys y Goron 5 gyfeirio mater datganolin codi o achos sifil ir Llys Apêl (paragraff 7, atodlen 8 DLlC; paragraff 16, atodlen 10 DGI, paragraff 19, atodlen 6 DA).
|
(4) |
Rhaid i dribiwnlys lle nad oes apêl, a gall unrhyw dribiwnlys arall, gyfeirio mater datganoli ir Llys Apêl (paragraff 8, atodlen 8 DLlC; paragraff 17, atodlen 10 DGI; paragraff 20, atodlen 6 DA).
|
(5) |
Gall y Llys Apêl gyfeirio mater datganoli ir Pwyllgor Barnwrol, oni bai bod y mater datganoli wedi ei gyfeirio iddo gan lys arall (paragraff 10, atodlen 8 DLlC; paragraff 19, atodlen 10 DGI; paragraff 22, atodlen 6 DA).
|
(6) |
Y Pwyllgor Barnwrol sydd i ddelio ag apêl yn erbyn cyfeirio penderfyniad ar fater datganoli ir Uchel Lys neu Lys Apêl, gyda chaniatâd y llys perthnasol, neu o fethu â chael caniatâd or fath, gyda chaniatâd arbennig y Pwyllgor Barnwrol (paragraff 11, atodlen 8 DLlC; paragraff 20, atodlen 10 DGI; paragraff 23, atodlen 6 DA).
|
|
|
3.5 |
Gall llys gymryd i ystyriaeth dreuliau ychwanegol y maer llys yn tybio bod parti wedi eu talu wrth ir Twrnai Cyffredinol neur Cynulliad gymryd rhan wrth benderfynu unrhyw gwestiwn ar gostau (paragraff 35, atodlen 8 DLlC).
|
RHAN II |
CYFARWYDDIADAU PERTHNASOL I BOB ACHOS |
4 |
Mae Paragraffau 5 i 13 yn berthnasol i achosion yng Nghymru a Lloegr mewn llysoedd ynadon, llysoedd sirol, Llys y Goron, yr Uchel Lys ar Llys Apêl (Adran Sifil a Throseddol). Mae paragraff 10 hefyd yn berthnasol i ffurf a threfn cyfeirio i Lys Apêl gan dribiwnlys.
|
CODI CWESTIWN A YW MATER DATGANOLIN CODI
|
5.1 |
Lle y mae parti i unrhyw ffurf o achos am godi mater a all fod yn fater datganoli, boed fel cais (neu ran o gais) i orfodi neu i sefydlu hawl gyfreithiol neu i geisio rhwymedi neu fel amddiffyniad (neu ran o amddiffyniad), bydd darpariaethaur Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn berthnasol yn ogystal âr rheolau trefn syn berthnasol ir achos y cwyd y mater ohono.
|
|
5.2 |
Gall llys, ohonoi hun, fynnu bod ystyriaeth yn cael ei rhoi ir cwestiwn a yw mater datganolin codi, os ywr defnyddiau a osodwyd gerbron y llys yn nodi y gall mater or fath godi, hyd yn oed os nad ywr partïon wedi defnyddior term mater datganoli.
|
PENDERFYNIAD GAN LYS A YW MATER DATGANOLIN CODI
|
6.1 |
Gall y llys roi cyfarwyddiadau y cred eu bod yn addas i gael eglurhad neu wybodaeth ychwanegol i bennu a yw mater datganolin codi.
|
|
6.2 |
Wrth bennu a yw mater datganolin codi, gall y llys, beth bynnag fo haeriad parti ir llys, benderfynu nad yw mater datganolin codi os ywr haeriad yn ymddangos ir llys yn wamal neun flinderus (paragraff 2 atodlen 8 DLlC).
|
|
6.3 |
Os ywr llys yn penderfynu bod mater datganolin codi rhaid iddo ddatgan yn glir ac yn gryno beth ywr mater datganoli.
|
RHYBUDD O FATER DATGANOLI IR TWRNAI CYFFREDINOL AC IR CYNULLIAD
|
7.1 |
Os yw llys yn penderfynu bod mater datganolin codi yn yr achos, rhaid iddo orchymyn rhybudd mater datganoli o ran sylwedd yn y ffurflen rhif DI 1 yn Atodiad 1 iw rhoi ir Twrnai Cyffredinol ac ir Cynulliad oni bai eu bod eisoes yn barti ir achos (paragraff 5(1), atodlen 8 DLlC).
|
|
7.2 |
Nid oes rhaid i lys syn derbyn y cyfeirio gyhoeddi rhybudd mater datganoli oni bai ei fod yn penderfynu fod mater datganoli wedi codi na chafodd ei nodi gan y llys syn gwneud y cyfeirio. Yn yr achos hwnnw rhaid ir llys syn derbyn y cyfeirio gyhoeddi rhybudd mater datganoli. Rhaid ir rhybudd hwn:
(1) |
nodi pa fater neu faterion datganoli sydd wedi cael ei gyfeirio neu eu cyfeirio iddo;
|
(2) |
nodi pa fater neu faterion datganoli pellach sydd wedi codi; a
|
(3) |
nodir llys syn cyfeirio.
|
|
|
7.3 |
Os ywr mater datganoli wedi codi mewn achos troseddol, rhaid ir rhybudd mater datganoli nodi:
(1) |
a ywr achos wedi cael ei ohirio;
|
(2) |
a ywr diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa; ac
|
(3) |
os ywr diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac os nad yw ei brawf wedi dechrau, pryd y bydd terfyn amser cadw yn y ddalfan dod i ben. 6
|
|
|
7.4 |
Os ywr mater datganolin codi mewn apêl, rhaid ir rhybudd mater datganoli:
(1) |
nodi bod y mater datganolin codi mewn apêl;
|
(2) |
nodir llys yr apelir yn erbyn ei benderfyniad; a
|
(3) |
nodi a godir y mater datganoli am y tro cyntaf ar apêl; neu os nad dynar sefyllfa, nodi bod y mater datganoli wedi ei godi yn y llys y mae apêl yn erbyn ei benderfyniad, pa benderfyniad a wnaed yn y llys hwnnw, a dyddiad y rhybudd blaenorol ir Twrnai Cyffredinol ac ir Cynulliad.
|
|
|
7.5 |
Bydd y rhybudd mater datganolin pennu dyddiad a fydd yn 14 diwrnod, neun gyfnod hwy yn ôl cyfarwyddyd y llys (gweler isod), ar ôl dyddiad y rhybudd mater datganoli, fel y dyddiad y bydd rhaid ir Twrnai Cyffredinol neur Cynulliad roi gwybod ir llys a ydyw am gymryd rhan fel parti ir achos, o ran ei berthynas i fater datganoli.
|
|
7.6 |
Gall y llys, mewn amgylchiadau eithriadol, nodi dyddiad hwy na 14 diwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd mater datganoli fel y dyddiad y bydd rhaid ir Twrnai Cyffredinol neur Cynulliad roi gwybod ir llys a ydyw am gymryd rhan fel parti ir achos. Gall y llys wneud hyn cyn rhoir rhybudd, neu cyn neu ar ôl diwedd y cyfnod a roddir yn y rhybudd.
|
|
7.7 |
(1) |
Ar ddyddiad y rhybudd mater datganoli
(a) |
rhaid ir rhybudd mater datganoli ir Twrnai Cyffredinol gael ei ffacsio ato gan y llys 7; a
|
(b) |
rhaid ir rhybudd mater datganoli ir Cynulliad gael ei ffacsio gan y llys at Gwnsel Cyffredinol y Cynulliad.
|
|
(2) |
Yr un diwrnod ag yr anfonir ffacs rhaid anfon copi or rhybudd mater datganoli gan y llys gyda phost dosbarth cyntaf at y Twrnai Cyffredinol ac at Gwnsel Cyffredinol y Cynulliad.
|
|
|
7.8 |
Gall y llys, ar delerau yr ystyrian addas, orchymyn bod dogfennau ychwanegol yn cael eu cyflwyno (ee mewn achos sifil, y ffurflen hawlio) neu bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu gydar rhybudd mater datganoli.
|
|
7.9 |
(1) |
Pan fo llys yn gorchymyn bod rhybudd mater datganolin cael ei roi gall y llys wneud gorchmynion pellach fel y gwêl yn dda mewn perthynas â gohirio, atal neu barhaur achos, neu fesurau dros dro, yn ystod y cyfnod y mae rhaid ir Twrnai Cyffredinol ar Cynulliad roi gwybod ir llys a ydynt yn bwriadu cymryd rhan fel parti ir achos.
|
(2) |
Cyn gorchymyn gohiriad mewn achos troseddol, bydd y llys yn ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys a fyddain golygu gohirio a allai estyn y tu hwnt i derfynau amser cadw yn y ddalfa os ywr diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac os nad yw ei brawf wedi dechrau.
|
|
|
7.10 |
Os nad ywr Twrnai Cyffredinol nar Cynulliad yn rhoi gwybod ir llys o fewn yr amser penodedig ei fod am gymryd rhan fel parti ir achos:
(1) |
dylair achos fynd yn ei flaen ar unwaith ar ddiwedd y cyfnod yr oedd ganddynt i roi gwybod ir llys; a
|
(2) |
nid oes dyletswydd ar y llys iw hysbysu o ganlyniad yr achos ac eithrior ddyletswydd i roi gwybod iddynt a ywr llys yn penderfynu cyfeirior mater datganoli i lys arall (gweler paragraff 10.3(5)). 8
|
|
YCHWANEGUR TWRNAI CYFFREDINOL NEUR CYNULLIAD AT YR ACHOS AU HAWL I FYNNU CYFEIRIO MATER DATGANOLI IR PWYLLGOR BARNWROL
|
8.1 |
Os ywr Twrnai Cyffredinol neur Cynulliad am gymryd rhan fel parti ir achos cyhyd ag y bon ymwneud â mater datganoli, rhaid iddo anfon ir llys ac at y partïon eraill (ac at ei gilydd os un ohonynt yn unig sydd wedi dod yn barti) rybudd o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd DI 2 a ddangosir yn Atodiad 1 o fewn yr amser a nodir yn y rhybudd mater datganoli.
|
|
8.2 |
Wrth dderbyn y ffurflen hon gall y llys roi cyfarwyddiadau dilynol fel y gwêl yn angenrheidiol.
|
|
8.3 |
Os ywr Twrnai Cyffredinol neur Cynulliad yn barti ir achos, ac os ywr naill neur llall ohonynt am fynnu bod y llys yn cyfeirior mater datganoli ir Pwyllgor Barnwrol, rhaid iddo cyn gynted ag y bon ymarferol anfon rhybudd o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd DI 3 yn Atodiad 1 ir llys ac at y partïon eraill (ac at ei gilydd os un ohonynt yn unig sydd wedi dod yn barti).
|
PENDERFYNIAD GAN Y LLYS AR GYFEIRIO MATER DATGANOLI AI PEIDIO OS NAD YWR TWRNAI CYFFREDINOL NEUR CYNULLIAD YN MYNNU CYFEIRIO
|
9.1 |
Os nad oes gofyn ir llys gyfeirior mater datganoli ir Pwyllgor Barnwrol, bydd y llys yn penderfynu a ddylai gyfeirior mater datganoli ir llys perthnasol fel y nodir ym mharagraff 3.4.
|
|
9.2 |
Cyn penderfynu a ddylid cyfeirio, gall y llys gynnal gwrandawiad cyfarwyddo neu roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar wneud argymhellion ynglín â chyfeirio neu beidio.
|
|
9.3 |
Gall y llys benderfynu ar sail argymhellion ysgrifenedig os yw ei drefniadaeth yn caniatáu hyn ac os ywn dymuno gwneud hyn, neu gall y llys gynnal gwrandawiad cyn penderfynu.
|
|
9.4 |
Wrth ddefnyddioi ddisgresiwn a ydyw am gyfeirio, bydd y llys yn ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol ac yn enwedig:
(1) |
pwysigrwydd y mater datganoli ir cyhoedd yn gyffredinol;
|
(2) |
pwysigrwydd y mater datganoli i bartïon gwreiddiol yr achos;
|
(3) |
a fyddai penderfyniad ar gyfeirior mater datganoli yn dyngedfennol yn y materion o anghydfod rhwng y partïon;
|
(4) |
a ywr holl ganfyddiadau ffeithiol perthnasol wedi eu gwneud (ni fydd mater datganoli, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, yn addas iw gyfeirio os oes rhaid iddo gael ei gyfeirio ar sail ffeithiau tybiedig);
|
(5) |
y gohirio y byddai cyfeirion ei olygu yn enwedig mewn achosion syn cynnwys plant ac achosion troseddol (gan gynnwys a ywr cyfeirion debyg o olygu gohirio a fyddain estyn y tu hwnt i ddiwedd y terfynau amser ar gadw yn y ddalfa os ywr diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac os nad yw ei brawf wedi dechrau); a
|
(6) |
costau ychwanegol y gallai cyfeirio eu golygu. 9
|
|
|
9.5 |
Dylair llys nodi ei resymau dros wneud neu wrthod cyfeirio.
|
|
9.6 |
Os ywr llys yn penderfynu peidio â chyfeirior achos, bydd yn rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer trin yr achos yn y dyfodol, a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar y rhan a gymer y Twrnai Cyffredinol ar Cynulliad os ydynt yn bartïon.
|
FFURFLEN A THREFN CYFEIRIO
|
10.1 |
Os ywr Twrnai Cyffredinol neur Cynulliad yn mynnu bod y llys neur tribiwnlys (mewn perthynas ag unrhyw achos gerbron y llys y maen barti iddo) yn cyfeirior mater datganoli ir Pwyllgor Barnwrol:
(1) |
bydd y llys neur tribiwnlys yn gwneud y cyfeirio cyn gynted ag y bon ymarferol ar ôl derbyn y rhybudd oddi wrth y Twrnai Cyffredinol neur Cynulliad o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd DI 3 a ddangosir yn Atodiad 1, ac yn dilyn y drefn ar gyfer cyfeirio yng Ngorchymyn Rheolaur Pwyllgor Barnwrol (Materion Datganoli) 1999; a
|
(2) |
gall y llys neur tribiwnlys orchymyn y partïon, neu unrhyw un ohonynt, i lunior cyfeirio.
|
|
|
10.2 |
Os ywr Llys Apêl yn penderfynu cyfeirior mater datganoli ir Pwyllgor Barnwrol:
(1) |
bydd yn dilyn y drefn yng Ngorchymyn Rheolaur Pwyllgor Barnwrol (Materion Datganoli) 1999; a
|
(2) |
gall y llys orchymyn y partïon, neu unrhyw un ohonynt, i lunior cyfeirio.
|
|
|
10.3 |
Os yw unrhyw lys neu dribiwnlys arall yn penderfynu cyfeirior mater datganoli i unrhyw lys arall, neu os mynnir bod tribiwnlys yn gwneud hynny:
(1) |
rhaid ir cyfeirio fod o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd DI 4 a ddangosir yn Atodiad 1 a rhaid iddo nodir canlynol:
(a) |
y cwestiwn a gyfeirir;
|
(b) |
cyfeiriadaur partïon, ac eithrio mewn achosion teulu - gweler paragraffau 15.2-4;
|
(c) |
datganiad cryno o gefndir y mater gan gynnwys -
(i) |
ffeithiaur achos, gan gynnwys unrhyw ganfyddiadau ffeithiol perthnasol gan y llys cyfeirio neur llysoedd is; a
|
(ii) |
y prif bynciau yn yr achos a haeriadaur partïon ynglín â hwy;
|
|
(ch) |
y gyfraith berthnasol, gan gynnwys darpariaethau perthnasol DLlC;
|
(d) |
y rhesymau pam caiff ateb ir cwestiwn ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn gwaredur achos;
|
|
(2) |
bydd pob dyfarniad a roddwyd eisoes yn yr achos yn cael ei atodi ir cyfeirio;
|
(3) |
gall y llys orchymyn y partïon, neu unrhyw un ohonynt, i lunior cyfeirio;
|
(4) |
bydd y llys neur tribiwnlys yn trosglwyddor cyfeirio i:
(a) |
Cofrestrfar Swyddfa Apeliadau Sifil os ywr cyfeirio ir Llys Apêl oddi wrth lys sirol, yr Uchel Lys neu Lys y Goron mewn achos sifil, neu oddi wrth dribiwnlys;
|
(b) |
Y Cofrestrydd Apeliadau Troseddol os ywr cyfeirio ir Llys Apêl oddi wrth Lys y Goron mewn achos ar dditiad; a
|
(c) |
Swyddfar Llys Gweinyddol os ywr cyfeirio ir Uchel Lys o lys ynadon mewn achos sifil neu ddiannod neu oddi wrth Lys y Goron mewn achos diannod.10Os caiff y cyfeirio ei drosglwyddo i Gaerdydd rhaid ffeilio copi ychwanegol or cyfeirio fel y gellir ei gadw gan Swyddfa Caerdydd. Caiff y cyfeirio gwreiddiol ei anfon i Swyddfar Llys Gweinyddol yn Llundain.
|
|
(5) |
yr un pryd ag y caiff y cyfeirio ei drosglwyddo ir llys syn derbyn y cyfeirio anfonir copi or cyfeirio gydar post dosbarth cyntaf at:
(b) |
y Twrnai Cyffredinol os nad yw ef eisoes yn barti; a
|
(c) |
y Cynulliad os nad yw eisoes yn barti;
|
|
(6) |
rhaid i bob un y cyflwynir copi or cyfeirio iddo roi gwybod ir llys y trosglwyddir y cyfeirio iddo ac i eraill y cyflwynir y cyfeirio iddynt, o fewn 21 diwrnod, a ydynt am gael eu clywed ar y cyfeirio;
|
(7) |
bydd y llys syn derbyn y cyfeirio (naill air Llys Apêl neur Uchel Lys) yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut y trafodir y cyfeirio, gan gynnwys cyflwyno argymhellion neu ddadleuon sgerbwd; a throsglwyddo copi or penderfyniad ar y cyfeirio ir llys cyfeirio; a
|
(8) |
os ceir apêl ir Pwyllgor Barnwrol yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys neur Llys Apêl ar gyfeirio, ac os oes copi o benderfyniad y Pwyllgor Barnwrol ar yr apêl honno wedi ei anfon ir Uchel Lys neu ir Llys Apêl (fel y bon briodol), bydd y llys hwnnwn anfon copi ir llys a gyfeiriodd y mater datganoli iddo.
|
|
|
10.4 |
Pan fo llys yn derbyn hysbysiad o benderfyniad ar gyfeirio, bydd yn penderfynu ar sut i fwrw ymlaen â gweddill yr achos.
|
Pëer llys i ddelio ag achos yn yr arfaeth os gwneir cyfeirio (naill ai gan y Twrnai Cyffredinol, y Cynulliad neur llys).
|
11 |
Os gwneir cyfeirio bydd y llys yn gohirio neun atal yr achos lle y cododd y mater datganoli, oni bai ei fod yn gorchymyn fel arall; a bydd yn gwneud gorchmynion pellach fel y gwêl yn dda mewn perthynas ag unrhyw ohirio neu atal.
|
12.1 |
Os yw unrhyw bartin dymuno cynnig haeriad ynglín â mater datganoli syn cynnwys cymharu testunau Cymraeg a Saesneg unrhyw ddeddfwriaeth eilradd o eiddor Cynulliad, rhaid ir parti hwnnw roi rhybudd ir llys cyn gynted ag y bo modd.
|
|
12.2 |
Wrth dderbyn yr hysbysiad, bydd y llys yn ystyried y dull priodol o benderfynur mater, gan gynnwys, os oes angen, benodi asesydd barnwrol Cymraeg i gynorthwyor llys.
|
|
12.3 |
Rhaid i bartïon i unrhyw achos lle y caiff y Gymraeg o bosib ei defnyddio hefyd gydymffurfio â Chyfarwyddyd Ymarfer 16 Hydref 1998 (yn ymwneud ag achosion yn Llys y Goron) a Chyfarwyddyd Ymarfer 26 Ebrill 1999 (yn ymwneud ag achosion sifil). Maer Cyfarwyddiadau Ymarfer hyn yn berthnasol, fel y bon briodol, i achosion yn ymwneud â mater datganoli lle y bydd y Gymraeg o bosib yn cael ei defnyddio.
|
DEDDF ACHOSION Y GORON 1947 (ADRAN 19)
|
13 |
Lle y mae llys wedi penderfynu bod achos datganolin codi, bydd y Twrnai Cyffredinol yn rhoi unrhyw gydsyniad angenrheidiol i:
(1) |
drosglwyddor achos ir Llysoedd Barn, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3PG, neu i gofrestrfa ranbarthol arall a gaiff (yn eithriadol) ei chyfarwyddo gan y llys; a
|
(2) |
gynnal yr achos yng Nghaerdydd neu mewn lleoliad prawf arall a gaiff (yn eithriadol) ei chyfarwyddo gan y llys.
|
|
Rhan III |
CYFARWYDDIADAU PERTHNASOL I ACHOSION PENODOL |
ACHOSION ADOLYGIAD BARNWROL
|
14.1 |
Maer Cyfarwyddyd Ymarfer syn ategu Rhan 5 (adolygiad barnwrol) yn cynnwys darpariaethau ynglín â pha bryd y gellir dwyn achos adolygiad barnwrol yn y Llys Gweinyddol yng Nghymru.
|
ACHOSION TEULU MEWN LLYSOEDD YNADON, Y LLYSOEDD SIROL AR UCHEL LYS
|
15.1 |
Mewn unrhyw achos lle y mae unrhyw gwestiwn yn codi ynglín â chodi plentyn, bydd y llys yn rhoi sylw ir egwyddor gyffredinol fod unrhyw oedi wrth benderfynur mater yn debyg o niweidio lles y plentyn. 11
|
|
15.2 |
Os ywr RhAT yn berthnasol, bydd y llys yn cydymffurfio â rheol 10.21. 12
|
|
15.3 |
Os yw Rhan IV RhAT yn berthnasol, bydd y llys yn cydymffurfio â rheol 4.23. 13
|
|
15.4 |
Os ywr LlAT yn berthnasol, bydd y llys yn cydymffurfio â Rheolau 23 a 33A. 14
|
|
15.5 |
Os caiff yr achos ei restru yng ngholofn (i) Atodiad 3 RhAT neu Atodlen 2 LlAT, rhaid i gopi o unrhyw rybudd a roddir ir partïon gael ei roi hefyd ir rhai a nodir yng ngholofn (iv) Atodiad 3 neu Atodlen 2 fel y bon addas.
|
|
15.6 |
Rhaid i barti syn dymuno codi mater datganoli, lle y bo modd, ei godi (gan roi manylion llawn y darpariaethau y dibynnir arnynt) yn y cais neu ateb neu yn y gwrandawiad cyfarwyddiadau cyntaf lle y bon addas.
|
|
15.7 |
Os nad yw parti wedi codi mater datganoli fel uchod, rhaid ir parti geisio caniatâd y llys i godir mater yn ddiweddarach.
|
|
15.8 |
Lle y mae llys wedi cyfeirior mater datganoli i lys arall ac wedi derbyn rhybudd or penderfyniad ar y cyfeirio, dylair mater cyhyd ag y bo modd gael ei roi gerbron yr un barnwr neur un ynadon a ddeliodd âr achos cyn y cyfeirio.
|
ACHOSION SIFIL YN Y LLYSOEDD SIROL AR UCHEL LYS
|
16.1 |
Rhaid i barti sydd am godi mater datganoli nodi yn y ffurflen gais, neu os ef ywr diffynnydd, yn yr amddiffyniad (neu dystiolaeth ysgrifenedig wedi ei ffeilio gydar cydnabyddiad cyflwyno mewn cais Rhan 8) fod y cais yn codi mater datganoli a darpariaethau perthnasol DLlC.
|
|
16.2 |
Rhaid ir manylion cais neu amddiffyniad os ywr mater datganoli yn cael ei godi gan y diffynnydd (neu dystiolaeth ysgrifenedig a ffeiliwyd gydar cydnabyddiad cyflwyno mewn cais Rhan 8) gynnwys yn ddigon manwl y ffeithiau ar amgylchiadau ar pwyntiau cyfraith yr honnir ar eu sail bod mater datganolin codi i alluogir llys i benderfynu a yw mater datganolin codi yn yr achos.
|
|
16.3 |
Os ywr rheolau dyrannun berthnasol ai peidio, os caiff cwestiwn ei godi yn ystod yr achos a allai fod yn fater datganoli, yna rhaid i wrandawiad cyfarwyddiadau gael ei gynnal a rhaid ir mater gael ei gyfeirio i farnwr cylchdaith (mewn achosion llys sirol) neu i farnwr Uchel Lys (mewn achosion Uchel Lys) i benderfynu a oes mater datganolin codi ac i gael cyfarwyddiadau pellach.
|
|
16.4 |
Os yw partin methu â nodi yn y ddogfen briodol bod mater datganolin codi, ond os ywr parti hwnnw wedi hynnyn dymuno codi mater datganoli, rhaid ir parti hwnnw geisio caniatâd y llys.
|
|
16.5 |
Lle y bo unrhyw barti wedi nodi bod mater datganolin codi, ni ellir cael dyfarniad trwy ddiffyg.
|
ACHOSION TROSEDDOL YN LLYS Y GORON
|
17. |
Os ywr diffynnydd am godi mater datganoli dylai wneud hynny yn y Gwrandawiad Ple a Chyfarwyddiadau.
|
ACHOSION TROSEDDOL A SIFIL YN LLYSOEDD YR YNADON
|
18.1 |
(1) |
Lle y bo diffynnydd, sydd wedi ei gyhuddo neu sydd wedi cael gwybodaeth wedi ei gosod yn ei erbyn yngl^yn â thramgwydd droseddol ac sydd wedi nodi ple Dieuog, am godi mater datganoli, dylai, lle y bo modd, roi manylion llawn y darpariaethau y dibynnir arnynt trwy roi rhybudd ysgrifenedig.
|
(2) |
Lle y mae parti i g^wyn, neu geisydd am drwydded am godi mater datganoli dylai, lle y bo modd, roi manylion llawn y darpariaethau y dibynnir arnynt trwy roi rhybudd ysgrifenedig.
|
(3) |
Dylid rhoir rhybudd hwn ir erlyniad (ac i unrhyw barti arall os oes un) ac ir llys cyn gynted ag syn ymarferol ar ôl cyflwynor ple Dieuog neu ar ôl gwneud y g^wyn neur cais fel y bon addas.
|
|
|
18.2 |
Lle y caiff achos ei draddodi neu ei drosglwyddo i Lys y Goron gan yr ynadon, Llys y Goron sydd i benderfynu a oes mater datganolin codi.
|
APELIADAU IR LLYS APêL (ADRAN SIFIL A THROSEDDOL)
|
19.1 |
Maer paragraff hwn yn berthnasol os yw mater datganolin codi mewn unrhyw apêl i Adran Sifil neu Adran Droseddol y Llys Apêl.
|
|
19.2 |
Maen bosibl bod y mater datganoli eisoes wedi codi yn y llys yr apelir yn erbyn ei benderfyniad. Gall y mater datganoli, serch hynny, godi am y tro cyntaf wrth apelio.
|
|
19.3 |
Lle y gwneir cais am ganiatâd i apelio, neu lle gwneir apêl pan nad oes angen caniatâd, rhaid ir apelydd nodi yn y rhybudd cais (neur rhybudd apêl neu rybudd o gynnig fel y bon addas):
(1) |
fod yr apêl yn codi mater datganoli a darpariaethau perthnasol DLlC;
|
(2) |
yn ddigon manwl y ffeithiau ar amgylchiadau ar pwyntiau cyfraith yr honnir ar eu sail bod mater datganolin codi i alluogir llys i benderfynu a yw mater datganolin codi yn yr achos; a
|
(3) |
a ystyriwyd y mater datganoli yn y llys is, ac os felly, roi manylion y penderfyniad.
|
|
|
19.4 |
Ni chaiff apelydd geisio codi mater datganoli heb ganiatâd y llys ar ôl iddo ffeilio rhybudd cais; neu rybudd apêl neu rybudd o gynnig (os nad oes rhybudd cais).
|
|
19.5 |
Lle y ceisir caniatâd i apelio a lle y mae parti ir apêl am godi mater datganoli na chodwyd yn y llys is, bydd y llys yn penderfynu a oes mater datganolin codi cyn penderfynu rhoi caniatâd i apelio.
|
20 |
Rhaid i rybudd apelio o benderfyniad llys yr ynadon i Lys y Goron nodi a ystyriwyd y mater datganoli yn y llys is, ac os felly, roi manylion y penderfyniad. Os nad ystyriwyd hyn, dylair rhybudd nodi:
|
|
21 |
fod yr apêl yn codi mater datganoli a darpariaethau perthnasol DLlC; a
|
|
22 |
yn ddigon manwl y ffeithiau ar amgylchiadau ar pwyntiau cyfraith yr honnir ar eu sail bod mater datganolin codi i alluogir llys i benderfynu a yw mater datganolin codi yn yr achos.
|
ATODIAD 1
|
RHYBUDD MATER DATGANOLI IR TWRNAI CYFFREDINOL AC I GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU |
|
Bydded hysbys fod yr achos a grybwyllir uchod wedi codi mater datganoli fel yi diffiniwyd gan Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Rhoddir manylion y mater datganoli yn yr atodlen a atodir.
|
|
Maer rhybudd hwn yn diwallu gofynion rhybuddio o dan baragraff 5(1) Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Gellwch gymryd rhan fel parti ir achos hwn, cyhyd ag y bon ymwneud â mater datganoli (paragraff 5(2) Atodlen 8). Os ydych am wneud hyn rhaid i chi roi gwybod ir llys trwy gwblhaur ffurflen atodedig, ai dychwelyd ir llys yn [cyfeiriad ] erbyn [ dyddiad ].
|
|
At:
Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Partïon eraill (lle y bon addas)
|
|
RHYBUDD O FWRIAD Y TWRNAI CYFFREDINOL NEU GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU I DDOD YN BARTI I ACHOS, CYHYD AG Y BON BERTHNASOL I FATER DATGANOLI, O DAN BARAGRAFF 5(2) ATODLEN 8 DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 1998 |
|
Bydded hysbys fod y [Twrnai Cyffredinol ] [ Cynulliad Cenedlaethol Cymru ] yn bwriadu cymryd rhan fel parti ir achos, cyhyd ag y bon ymwneud â mater datganoli fel a ganiateir gan baragraff 5(2) Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 mewn perthynas âr mater datganoli a godwyd gan [ ], y derbyniwyd rhybudd ohono gan y [ Twrnai Cyffredinol ] [ Cynulliad ] ar [ ].
|
|
[Maer [ ] hefyd yn ei gwneud yn hysbys ei fod [yn mynnu bod y mater yn cael ei gyfeirio i ] [ yn dal i ystyried a ddylai fynnu bod y mater yn cael ei gyfeirio i ] Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor o dan baragraff 30 Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. ]
|
|
Ar ran y [Twrnai Cyffredinol] [ Cynulliad Cenedlaethol Cymru]
|
|
At:
Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Partïon eraill (lle y bon addas)
|
|
RHYBUDD GAN Y TWRNAI CYFFREDINOL NEU GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU EU BOD YN MYNNU BOD Y MATER DATGANOLIN CAEL EI GYFEIRIO I BWYLLGOR BARNWROL Y CYFRIN GYNGOR |
|
Maer [Twrnai Cyffredinol] [Cynulliad Cenedlaethol Cymru] yn ei gwneud yn hysbys fod rhaid cyfeirior mater datganoli, a godwyd yn yr achos uchod y maen barti iddo, gael ei gyfeirio i Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor o dan baragraff 30 Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. [DYDDIAD]
|
|
Ar ran y [Twrnai Cyffredinol] [ Cynulliad Cenedlaethol Cymru]
|
|
At:
Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Partïon eraill (lle y bon addas)
|
|
CYFEIRIO MATER DATGANOLI GAN Y LLYS NEU DRIBIWNLYS I [UCHEL LYS] [LYS APêL] [BWYLLGOR BARNWROL Y CYFRIN GYNGOR] |
|
Gorchmynnir cyfeirior mater(ion) datganoli a nodir yn yr atodlen [ ir Uchel Lys] [ ir Llys Apêl] [i Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor] iw benderfynu yn unol â pharagraff [ ] Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
|
|
Gorchmynnir ymhellach fod yr achos yn cael ei ohirio nes bod [yr Uchel Lys] [y Llys Apêl] [Pwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor] yn penderfynu ar y mater[ion] datganoli neu nes gorchymyn pellach.
|
|
Barnwr/clerc y llys ynadon
Cadeirydd y Tribiwnlys
[Cyfeiriad]
|
|
CYFEIRIO SGERBWD IW ATODI WRTH FFURFLEN DI 4 |
|
. |
(a) |
[Y cwestiwn a gyfeiriwyd.]
|
(b) |
[Cyfeiriadaur partïon]
|
(c) |
[Datganiad cryno o gefndir y materion gan gynnwys -
(i) |
Ffeithiaur achos gan gynnwys unrhyw ganfyddiadau o ffaith gan y llys cyfeirio neu lysoedd is; a
|
(ii) |
Y prif bynciau yn yr achos a haeriadaur partïon ynglín â hwy;]
|
|
(ch) |
[Y ddeddf berthnasol gan gynnwys darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 1998]
|
(d) |
[Y rhesymau pam ystyrir bod ateb ir cwestiwn yn angenrheidiol ar gyfer dibenion gwaredur achos.]
|
[Caiff yr holl ddyfarniadau a roddwyd eisoes yn yr achos eu hatodi wrth y cyfeirio hwn.]
|
ATODIAD 2
. |
(1) |
Rhaid i hysbysiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu hanfon at Gwnsel Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladaur Goron, Parc Cathays, Caerdydd. Rhif ffacs 01222 826798.
|
(2) |
Rhaid anfon hysbysiadau at y Twrnai Cyffredinol i Siambraur Twrnai Cyffredinol, 9 Buckingham Gate, Llundain, SW1E 6JP. Rhif ffacs 0171 271 2433.
|
(3) |
Gellir anfon cyfeirio i Swyddfar Goron o dan baragraff 14.2 y Cyfarwyddyd Ymarfer i Swyddfar Goron, Llysoedd Barn Brenhinol, Strand, Llundain WC2A 2LL; neu ir Llysoedd Barn, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3PG (2 gopi).
|
|
. |
(4) |
Y cyfeiriadau ar rhifau ffacs uchod ywr wybodaeth orau sydd ar gael, serch hynny y maen bosibl ir rhain (yn enwedig y rhifau ffacs ar cyfeiriad am Hysbysiadau ir Cynulliad) newid, a byddai fellyn ddoeth cadarnhaur rhifau cyn anfon gwybodaeth.
|
|
1
|
Yr hawliau a rhyddid sylfaenol a nodir yn _ (a) Erthyglau 2 i 12 ac 14 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ("CEHD"), (b) Erthyglau 1 i 3 o'r Protocol Cyntaf (cytunwyd ym Mharis 20 Mawrth 1952), ac (c) Erthyglau 1 a 2 y Chweched Protocol (cytunwyd yn Strasbourg 11 Mai 1994), fel y'u darllenir gydag Erthyglau 16 ac 18 CEHD (Adran 1 Deddf Hawliau Dynol 1998; a. 107(1) a (5) DLlC; adrannau 6(2); 24(1) a 98(1) DGI; adrannau 29(2); 57(2) a 126(1) DA). 
|
2
|
Yr holl hawliau, pwerau, rhwymedigaethau, goblygiadau a chyfyngiadau a grëwyd neu sy'n deillio o bryd i'w gilydd gan neu o dan y Cytundebau Cymuned; a'r holl rwymedïau a threfniadaethau a ddarparwyd o bryd i'w gilydd ar gyfer, gan neu o dan y Cytundebau Cymuned (adrannau 106(7) a 155(1), DLlC; adrannau 6(2); 24(1) a 98(1), DGI; adrannau 29(2); 57(2) a 126(9) DA). 
|
3
|
Pe bai'r Twrnai Cyffredinol neu'r Cynulliad wedi dod yn barti i'r achos gwreiddiol ond heb ymarfer eu hawl i fynnu bod y mater datganoli'n cael ei gyfeirio i'r Pwyllgor Barnwrol a'r llys wedi penderfynu'r achos, byddai ganddynt yr un hawl apêl â phartïon. Ni fyddai'r rhain yn caniatáu apêl iddynt ar benderfyniad a wnaed mewn achos ar dditiad, er bod gan y Twrnai Cyffredinol bëer o dan adran 36 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1972 i gyfeirio pwynt o gyfraith i'r Llys Apêl lle bo'r diffynnydd wedi ei farnu'n ddieuog mewn prawf ar dditiad.
Mae paragraff 31, atodlen 8 DLlC, yn caniatáu i'r Twrnai Cyffredinol ac i'r Cynulliad gyfeirio i'r Pwyllgor Barnwrol unrhyw fater datganoli nad yw'n destun achos. Gellid defnyddio'r pëer hwn o bosib pe bai llys yn penderfynu a hwythau heb fod yn bartïon ac felly heb hawl apêl ond ni allai cyfeirio o'r fath effeithio ar benderfyniad y llys. 
|
4
|
Os yw apêl mewn ffurf achos datganedig mewn achos troseddol yn mynd i Lys Adrannol ymddengys nad oes pëer gan y Llys Adrannol i gyfeirio mater datganoli i'r Llys Apêl. 
|
5
|
e.e. mewn apeliadau o lys ynadon ar fater trwyddedu. 
|
6
|
Caiff terfynau amser cadw yn y ddalfa eu gosod gan Reoliadau Erlyn Troseddau (Terfynau Amser yn y Ddalfa) 1987 fel y'u diwygiwyd. 
|
7
|
Gweler Atodiad 2 am wybodaeth am rifau ffacs a chyfeiriadau. 
|
8
|
Os oes apêl, bydd y llys apêl yn cyflwyno rhybudd mater datganoli i'r Twrnai Cyffredinol ac i'r Cynulliad (gweler paragraff 7.4). 
|
9
|
Mewn achosion troseddol nid yw adran 16 Deddf Erlyn Troseddau 1985 yn galluogi llys sy'n derbyn cyfeirio i wneud gorchymyn costau diffynnydd. Os yw'r diffynnydd wedi hyn yn cael ei farnu'n ddieuog gan y llys sydd wedi gwneud y cyfeirio, gall y llys hwnnw wneud gorchymyn costau diffynnydd. Serch hynny ni fyddai'n ymwneud â chostau'r cyfeirio gan fod "achos" fel y'i diffinnir yn adran 21 yn cynnwys achos mewn unrhyw lys llai ond nid yw'n sôn am achos ar ôl cyfeirio. 
|
10
|
Gweler Atodiad 2 am y cyfeiriadau perthnasol. Dengys y Llysoedd Barn, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3PG a'r Llysoedd Barn Brenhinol, Strand, Llundain WC2A 2LL fel cyfeiriadau eraill ar gyfer trosglwyddo dogfennau i Swyddfa'r Goron. Os caiff y gorchymyn ei drosglwyddo i Gaerdydd, caiff y copi ychwanegol ei anfon gan Swyddfa Caerdydd i Swyddfa'r Goron yn Llundain. 
|
11
|
Adran 1(2), Deddf Plant 1989. 
|
12
|
Noda Rheol 10.21: (1) Yn amodol ar reol 2.3 [RhAT] nid oes dim yn y rheolau hyn i gael ei ddeall mewn modd a fyddai'n mynnu bod unrhyw barti'n datgelu cyfeiriad ei drigfan breifat (neu un unrhyw blentyn) ac eithrio trwy orchymyn y llys. (2) Lle y bo parti'n gwrthod datgelu cyfeiriad wrth ddibynnu ar baragraff (1) uchod, bydd yn rhoi rhybudd o'r cyfeiriad hwnnw i'r llys yn Ffurflen C8 ac ni chaiff y cyfeiriad hwnnw ei ddatgelu i unrhyw un heblaw trwy orchymyn y llys. 
|
13
|
Noda Rheol 4.23: (1) Er gwaethaf unrhyw reol llys i'r gwrthwyneb, ni chaiff unrhyw ddogfen, ac eithrio cofnod o orchymyn, a ddelir gan y llys ac sy'n ymwneud ag achos y mae [Rhan IV] yn berthnasol iddo, ei datgelu, ac eithrio i _ (a) barti, (b) cynrychiolydd cyfreithiol parti (c) y gwarcheidwad ad litem, (d) y Bwrdd Cymorth Cyfreithiol, neu (e) swyddog lles, heb ganiatâd y barnwr neu'r barnwr rhanbarthol. (2) Ni fydd dim yn y rheol hon yn rhwystro rhoi rhybudd i'r awdurdod perthnasol gan y llys neu swyddog priodol o gyfarwyddyd o dan adran 37(1). (3) Ni fydd dim yn y rheol hon yn rhwystro datgelu dogfen a baratowyd gan warcheidwad ad litem ar gyfer dibenion _ (a) galluogi person i gyflawni swyddogaethau a fynnir gan reoliadau a wnaed o dan adran 41(7); (b) cynorthwyo gwarcheidwad ad litem neu swyddog hysbysu (o fewn ystyr adran 65(1)(b) Deddf Mabwysiadu 1976) a benodir o dan unrhyw ddeddfiad i gyflawni ei swyddogaethau. 
|
14
|
Noda Rheol 23: (1) Ni chaiff unrhyw ddogfen, ac eithrio cofnod o orchymyn, a ddelir gan y llys ac sy'n ymwneud ag achosion perthnasol ei datgelu, heblaw i _ (a) parti, (b) cynrychiolydd cyfreithiol parti, (c) y gwarcheidwad ad litem, (d) y Bwrdd Cymorth Cyfreithiol, neu (e) swyddog lles, heb ganiatâd clerc yr ynadon neu'r llys. (2) Ni fydd dim yn y rheol hon yn atal y llys neu glerc yr ynadon rhag rhoi gwybod am gyfarwyddyd o dan adran 37(1) i'r awdurdod perthnasol. (3) Ni fydd dim yn y rheol hon yn rhwystro datgelu dogfen a baratowyd gan warcheidwad ad litem ar gyfer dibenion _ (a) galluogi person i gyflawni swyddogaethau a fynnir gan reoliadau a wnaed o dan adran 41(7); (b) cynorthwyo gwarcheidwad ad litem neu swyddog hysbysu (o fewn ystyr adran 65(1)(b) Deddf Mabwysiadu 1976) a benodir o dan unrhyw ddeddfiad i gyflawni ei swyddogaethau.
Noda Rheol 33A: (1) Nid oes dim yn y Rheolau hyn i gael ei ddeall mewn modd a fyddai'n mynnu bod unrhyw barti'n datgelu cyfeiriad ei drigfan breifat (neu un unrhyw blentyn) ac eithrio trwy orchymyn y llys. (2) Lle y bo parti'n gwrthod datgelu cyfeiriad wrth ddibynnu ar baragraff (1) uchod, bydd yn rhoi rhybudd o'r cyfeiriad hwnnw i'r llys yn Ffurflen C8 ac ni chaiff y cyfeiriad hwnnw ei ddatgelu i unrhyw un ac eithrio trwy orchymyn y llys. 
|

|