CYFARWYDDYD YMARFER

RHAN I CYFLWYNIAD

Diffiniadau

1

Yn y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn –

golyga ‘y Cynulliad’ Gynulliad Cenedlaethol Cymru

golyga ‘DLlC’ Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

golyga ‘DGI’ Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998

golyga ‘DA’ Ddeddf yr Alban 1998

golyga ‘y Deddfau’ DLlC, DGI a DA

golyga ‘y Pwyllgor Barnwrol’ Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin-Gyngor

golyga ‘RhTS’ Reolau Trefn Sifil 1998

golyga ‘RhAT’ Reolau Achosion Teulu 1991

golyga ‘LlAT’ Reolau Llysoedd Achosion Teulu (Deddf Plant 1989) 1991

mae gan ‘mater datganoli’ yr un ystyr ag ym mharagraff 1, atodlen 8 DLlC; paragraff 1, atodlen 10 DGI; a pharagraff 1, atodlen 6 DA

golyga ‘rhybudd mater datganoli’ rybudd bod mater datganoli wedi codi mewn achos

Back to top of page

Ystod

2.1

Mae’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn ategu’r darpariaethau sy’n delio â materion datganoli yn y Deddfau. Mae’n delio’n benodol â’r sefyllfa os yw mater datganoli’n codi o dan DLlC. Os yw mater datganoli’n codi o dan DGI neu DA dylid addasu’r drefn a osodir yn y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn fel y bo’r angen.

Back to top of page

Deddfwriaeth datganoli

3.1

Mae atodlen 8 DLlC yn cynnwys darpariaethau’n delio â materion datganoli sy’n deillio o DLlC; mae atodlen 10 DGI yn cynnwys darpariaethau’n delio â materion datganoli’n deillio o DGI; ac mae atodlen 6 DA yn cynnwys darpariaethau’n delio â materion datganoli’n deillio o DA.

3.2

Yn gyffredinol bydd mater datganoli’n ymwneud ag a yw corff datganoledig wedi gweithredu neu’n bwriadu gweithredu o fewn ei bwerau (sy’n cynnwys peidio â gweithredu’n anghydnaws â hawliau Confensiwn1 a deddf Cymuned2) neu wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodwyd arno. Dylid cyfeirio at y Deddfau lle caiff ‘mater datganoli’ ei ddiffinio.

3.3

(1) Os yw mater datganoli o dan DLlC yn codi mewn achos, rhaid i’r llys orchymyn bod rhybudd ohono yn cael ei roi i’r Twrnai Cyffredinol ac i’r Cynulliad os nad ydynt eisoes yn barti. Mae ganddynt hawl i gymryd rhan fel parti yn yr achos i’r graddau y maent yn berthnasol i fater datganoli, os nad ydynt eisoes yn barti (paragraff 5, atodlen 8 i DLlC). Os ydynt yn cymryd rhan, gallant fynnu bod y llys yn cyfeirio’r mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol (paragraff 30, atodlen 8 DLlC)3.

(2) Ceir darpariaethau tebyg yn DGI a DA er bod y personau i’w hysbysu’n wahanol (paragraffau 13, 14, a 33, atodlen 10 DGI; paragraffau 16, 17 a 33, atodlen 6 DA).

3.4

O dan yr holl Ddeddfau gall y llys gyfeirio mater datganoli i lys arall fel a ganlyn:

(1) Gall llys ynadon gyfeirio mater datganoli’n codi o achos sifil neu ddiannod i’r Uchel Lys (paragraffau 6 a 9, atodlen 8 DLlC; paragraffau 15 ac 18, atodlen 10 DGI; a pharagraffau 18 a 21, atodlen 6 DA).

(2) Gall Llys y Goron gyfeirio mater datganoli’n codi mewn achos diannod i’r Uchel Lys a mater datganoli’n codi mewn achosion ar dditiad i’r Llys Apêl (paragraff 9, atodlen 8 DLlC; paragraff 18, atodlen 10 DGI, paragraff 21, atodlen 6 DA).

(3) Gall llys sirol, yr Uchel Lys (oni bai bod y mater datganoli wedi ei gyfeirio i’r Uchel Lys)4, a Llys y Goron5 gyfeirio mater datganoli’n codi o achos sifil i’r Llys Apêl (paragraff 7, atodlen 8 DLlC; paragraff 16, atodlen 10 DGI, paragraff 19, atodlen 6 DA).

(4) Rhaid i dribiwnlys lle nad oes apêl, a gall unrhyw dribiwnlys arall, gyfeirio mater datganoli i’r Llys Apêl (paragraff 8, atodlen 8 DLlC; paragraff 17, atodlen 10 DGI; paragraff 20, atodlen 6 DA).

(5) Gall y Llys Apêl gyfeirio mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol, oni bai bod y mater datganoli wedi ei gyfeirio iddo gan lys arall (paragraff 10, atodlen 8 DLlC; paragraff 19, atodlen 10 DGI; paragraff 22, atodlen 6 DA).

(6) Y Pwyllgor Barnwrol sydd i ddelio ag apêl yn erbyn cyfeirio penderfyniad ar fater datganoli i’r Uchel Lys neu Lys Apêl, gyda chaniatâd y llys perthnasol, neu o fethu â chael caniatâd o’r fath, gyda chaniatâd arbennig y Pwyllgor Barnwrol (paragraff 11, atodlen 8 DLlC; paragraff 20, atodlen 10 DGI; paragraff 23, atodlen 6 DA).

3.5

Gall llys gymryd i ystyriaeth dreuliau ychwanegol y mae’r llys yn tybio bod parti wedi eu talu wrth i’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad gymryd rhan wrth benderfynu unrhyw gwestiwn ar gostau (paragraff 35, atodlen 8 DLlC).

Back to top of page

RHAN II CYFARWYDDIADAU PERTHNASOL I BOB ACHOS

Ystod

4

Mae Paragraffau 5 i 13 yn berthnasol i achosion yng Nghymru a Lloegr mewn llysoedd ynadon, llysoedd sirol, Llys y Goron, yr Uchel Lys a’r Llys Apêl (Adran Sifil a Throseddol). Mae paragraff 10 hefyd yn berthnasol i ffurf a threfn cyfeirio i Lys Apêl gan dribiwnlys.

Back to top of page

Codi cwestiwn a yw mater datganoli’n codi

5.1

Lle y mae parti i unrhyw ffurf o achos am godi mater a all fod yn fater datganoli, boed fel cais (neu ran o gais) i orfodi neu i sefydlu hawl gyfreithiol neu i geisio rhwymedi neu fel amddiffyniad (neu ran o amddiffyniad), bydd darpariaethau’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn berthnasol yn ogystal â’r rheolau trefn sy’n berthnasol i’r achos y cwyd y mater ohono.

5.2

Gall llys, ohono’i hun, fynnu bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r cwestiwn a yw mater datganoli’n codi, os yw’r defnyddiau a osodwyd gerbron y llys yn nodi y gall mater o’r fath godi, hyd yn oed os nad yw’r partïon wedi defnyddio’r term ‘mater datganoli’.

Back to top of page

Penderfyniad gan lys a yw mater datganoli’n codi

6.1

Gall y llys roi cyfarwyddiadau y cred eu bod yn addas i gael eglurhad neu wybodaeth ychwanegol i bennu a yw mater datganoli’n codi.

6.2

Wrth bennu a yw mater datganoli’n codi, gall y llys, beth bynnag fo haeriad parti i’r llys, benderfynu nad yw mater datganoli’n codi os yw’r haeriad yn ymddangos i’r llys yn wamal neu’n flinderus (paragraff 2 atodlen 8 DLlC).

6.3

Os yw’r llys yn penderfynu bod mater datganoli’n codi rhaid iddo ddatgan yn glir ac yn gryno beth yw’r mater datganoli.

Back to top of page

Rhybudd o fater datganoli i’r Twrnai Cyffredinol ac i’r Cynulliad

7.1

Os yw llys yn penderfynu bod mater datganoli’n codi yn yr achos, rhaid iddo orchymyn rhybudd mater datganoli o ran sylwedd yn y ffurflen rhif ‘DI 1’ yn Atodiad 1 i’w rhoi i’r Twrnai Cyffredinol ac i’r Cynulliad oni bai eu bod eisoes yn barti i’r achos (paragraff 5(1), atodlen 8 DLlC).

7.2

Nid oes rhaid i lys sy’n derbyn y cyfeirio gyhoeddi rhybudd mater datganoli oni bai ei fod yn penderfynu fod mater datganoli wedi codi na chafodd ei nodi gan y llys sy’n gwneud y cyfeirio. Yn yr achos hwnnw rhaid i’r llys sy’n derbyn y cyfeirio gyhoeddi rhybudd mater datganoli. Rhaid i’r rhybudd hwn:

(1) nodi pa fater neu faterion datganoli sydd wedi cael ei gyfeirio neu eu cyfeirio iddo;

(2) nodi pa fater neu faterion datganoli pellach sydd wedi codi; a

(3) nodi’r llys sy’n cyfeirio.

7.3

Os yw’r mater datganoli wedi codi mewn achos troseddol, rhaid i’r rhybudd mater datganoli nodi:

(1) a yw’r achos wedi cael ei ohirio;

(2) a yw’r diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa; ac

(3) os yw’r diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac os nad yw ei brawf wedi dechrau, pryd y bydd terfyn amser cadw yn y ddalfa’n dod i ben.6

7.4

Os yw’r mater datganoli’n codi mewn apêl, rhaid i’r rhybudd mater datganoli:

(1) nodi bod y mater datganoli’n codi mewn apêl;

(2) nodi’r llys yr apelir yn erbyn ei benderfyniad; a

(3) nodi a godir y mater datganoli am y tro cyntaf ar apêl; neu os nad dyna’r sefyllfa, nodi bod y mater datganoli wedi ei godi yn y llys y mae apêl yn erbyn ei benderfyniad, pa benderfyniad a wnaed yn y llys hwnnw, a dyddiad y rhybudd blaenorol i’r Twrnai Cyffredinol ac i’r Cynulliad.

7.5

Bydd y rhybudd mater datganoli’n pennu dyddiad a fydd yn 14 diwrnod, neu’n gyfnod hwy yn ôl cyfarwyddyd y llys (gweler isod), ar ôl dyddiad y rhybudd mater datganoli, fel y dyddiad y bydd rhaid i’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad roi gwybod i’r llys a ydyw am gymryd rhan fel parti i’r achos, o ran ei berthynas i fater datganoli.

7.6

Gall y llys, mewn amgylchiadau eithriadol, nodi dyddiad hwy na 14 diwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd mater datganoli fel y dyddiad y bydd rhaid i’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad roi gwybod i’r llys a ydyw am gymryd rhan fel parti i’r achos. Gall y llys wneud hyn cyn rhoi’r rhybudd, neu cyn neu ar ôl diwedd y cyfnod a roddir yn y rhybudd.

7.7

(1) Ar ddyddiad y rhybudd mater datganoli

(a) rhaid i’r rhybudd mater datganoli i’r Twrnai Cyffredinol gael ei ffacsio ato gan y llys7; a

(b) rhaid i’r rhybudd mater datganoli i’r Cynulliad gael ei ffacsio gan y llys at Gwnsel Cyffredinol y Cynulliad.

(2) Yr un diwrnod ag yr anfonir ffacs rhaid anfon copi o’r rhybudd mater datganoli gan y llys gyda phost dosbarth cyntaf at y Twrnai Cyffredinol ac at Gwnsel Cyffredinol y Cynulliad.

7.8

Gall y llys, ar delerau yr ystyria’n addas, orchymyn bod dogfennau ychwanegol yn cael eu cyflwyno (ee mewn achos sifil, y ffurflen hawlio) neu bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu gyda’r rhybudd mater datganoli.

7.9

(1) Pan fo llys yn gorchymyn bod rhybudd mater datganoli’n cael ei roi gall y llys wneud gorchmynion pellach fel y gwêl yn dda mewn perthynas â gohirio, atal neu barhau’r achos, neu fesurau dros dro, yn ystod y cyfnod y mae rhaid i’r Twrnai Cyffredinol a’r Cynulliad roi gwybod i’r llys a ydynt yn bwriadu cymryd rhan fel parti i’r achos.

(2) Cyn gorchymyn gohiriad mewn achos troseddol, bydd y llys yn ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys a fyddai’n golygu gohirio a allai estyn y tu hwnt i derfynau amser cadw yn y ddalfa os yw’r diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac os nad yw ei brawf wedi dechrau.

7.10

Os nad yw’r Twrnai Cyffredinol na’r Cynulliad yn rhoi gwybod i’r llys o fewn yr amser penodedig ei fod am gymryd rhan fel parti i’r achos:

(1) dylai’r achos fynd yn ei flaen ar unwaith ar ddiwedd y cyfnod yr oedd ganddynt i roi gwybod i’r llys; a

(2) nid oes dyletswydd ar y llys i’w hysbysu o ganlyniad yr achos ac eithrio’r ddyletswydd i roi gwybod iddynt a yw’r llys yn penderfynu cyfeirio’r mater datganoli i lys arall (gweler paragraff 10.3(5)).8

Back to top of page

Ychwanegu’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad at yr achos a’u hawl i fynnu cyfeirio mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol

8.1

Os yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad am gymryd rhan fel parti i’r achos cyhyd ag y bo’n ymwneud â mater datganoli, rhaid iddo anfon i’r llys ac at y partïon eraill (ac at ei gilydd os un ohonynt yn unig sydd wedi dod yn barti) rybudd o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd ‘DI 2’ a ddangosir yn Atodiad 1 o fewn yr amser a nodir yn y rhybudd mater datganoli.

8.2

Wrth dderbyn y ffurflen hon gall y llys roi cyfarwyddiadau dilynol fel y gwêl yn angenrheidiol.

8.3

Os yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad yn barti i’r achos, ac os yw’r naill neu’r llall ohonynt am fynnu bod y llys yn cyfeirio’r mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol, rhaid iddo cyn gynted ag y bo’n ymarferol anfon rhybudd o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd ‘DI 3’ yn Atodiad 1 i’r llys ac at y partïon eraill (ac at ei gilydd os un ohonynt yn unig sydd wedi dod yn barti).

Back to top of page

Penderfyniad gan y llys ar gyfeirio mater datganoli ai peidio os nad yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad yn mynnu cyfeirio

9.1

Os nad oes gofyn i’r llys gyfeirio’r mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol, bydd y llys yn penderfynu a ddylai gyfeirio’r mater datganoli i’r llys perthnasol fel y nodir ym mharagraff 3.4.

9.2

Cyn penderfynu a ddylid cyfeirio, gall y llys gynnal gwrandawiad cyfarwyddo neu roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar wneud argymhellion ynglyn â chyfeirio neu beidio.

9.3

Gall y llys benderfynu ar sail argymhellion ysgrifenedig os yw ei drefniadaeth yn caniatáu hyn ac os yw’n dymuno gwneud hyn, neu gall y llys gynnal gwrandawiad cyn penderfynu.

9.4

Wrth ddefnyddio’i ddisgresiwn a ydyw am gyfeirio, bydd y llys yn ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol ac yn enwedig:

(1) pwysigrwydd y mater datganoli i’r cyhoedd yn gyffredinol;

(2) pwysigrwydd y mater datganoli i bartïon gwreiddiol yr achos;

(3) a fyddai penderfyniad ar gyfeirio’r mater datganoli yn dyngedfennol yn y materion o anghydfod rhwng y partïon;

(4) a yw’r holl ganfyddiadau ffeithiol perthnasol wedi eu gwneud (ni fydd mater datganoli, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, yn addas i’w gyfeirio os oes rhaid iddo gael ei gyfeirio ar sail ffeithiau tybiedig);

(5) y gohirio y byddai cyfeirio’n ei olygu yn enwedig mewn achosion sy’n cynnwys plant ac achosion troseddol (gan gynnwys a yw’r cyfeirio’n debyg o olygu gohirio a fyddai’n estyn y tu hwnt i ddiwedd y terfynau amser ar gadw yn y ddalfa os yw’r diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac os nad yw ei brawf wedi dechrau); a

(6) costau ychwanegol y gallai cyfeirio eu golygu.9

9.5

Dylai’r llys nodi ei resymau dros wneud neu wrthod cyfeirio.

9.6

Os yw’r llys yn penderfynu peidio â chyfeirio’r achos, bydd yn rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer trin yr achos yn y dyfodol, a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar y rhan a gymer y Twrnai Cyffredinol a’r Cynulliad os ydynt yn bartïon.

Back to top of page

Ffurflen a threfn cyfeirio

10.1

Os yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad yn mynnu bod y llys neu’r tribiwnlys (mewn perthynas ag unrhyw achos gerbron y llys y mae’n barti iddo) yn cyfeirio’r mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol:

(1) bydd y llys neu’r tribiwnlys yn gwneud y cyfeirio cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl derbyn y rhybudd oddi wrth y Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd ‘DI 3’ a ddangosir yn Atodiad 1, ac yn dilyn y drefn ar gyfer cyfeirio yng Ngorchymyn Rheolau’r Pwyllgor Barnwrol (Materion Datganoli) 1999; a

(2) gall y llys neu’r tribiwnlys orchymyn y partïon, neu unrhyw un ohonynt, i lunio’r cyfeirio.

10.2

Os yw’r Llys Apêl yn penderfynu cyfeirio’r mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol:

(1) bydd yn dilyn y drefn yng Ngorchymyn Rheolau’r Pwyllgor Barnwrol (Materion Datganoli) 1999; a

(2) gall y llys orchymyn y partïon, neu unrhyw un ohonynt, i lunio’r cyfeirio.

10.3

Os yw unrhyw lys neu dribiwnlys arall yn penderfynu cyfeirio’r mater datganoli i unrhyw lys arall, neu os mynnir bod tribiwnlys yn gwneud hynny:

(1) rhaid i’r cyfeirio fod o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd ‘DI 4’ a ddangosir yn Atodiad 1 a rhaid iddo nodi’r canlynol:

(a) y cwestiwn a gyfeirir;

(b) cyfeiriadau’r partïon, ac eithrio mewn achosion teulu - gweler paragraffau 15.2–4;

(c) datganiad cryno o gefndir y mater gan gynnwys –

(i) ffeithiau’r achos, gan gynnwys unrhyw ganfyddiadau ffeithiol perthnasol gan y llys cyfeirio neu’r llysoedd is; a

(ii) y prif bynciau yn yr achos a haeriadau’r partïon yngln â hwy;

(ch) y gyfraith berthnasol, gan gynnwys darpariaethau perthnasol DLlC;

(d) y rhesymau pam caiff ateb i’r cwestiwn ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn gwaredu’r achos;

(2) bydd pob dyfarniad a roddwyd eisoes yn yr achos yn cael ei atodi i’r cyfeirio;

(3) gall y llys orchymyn y partïon, neu unrhyw un ohonynt, i lunio’r cyfeirio;

(4) bydd y llys neu’r tribiwnlys yn trosglwyddo’r cyfeirio i:

(a) Cofrestrfa’r Swyddfa Apeliadau Sifil os yw’r cyfeirio i’r Llys Apêl oddi wrth lys sirol, yr Uchel Lys neu Lys y Goron mewn achos sifil, neu oddi wrth dribiwnlys;

(b) Y Cofrestrydd Apeliadau Troseddol os yw’r cyfeirio i’r Llys Apêl oddi wrth Lys y Goron mewn achos ar dditiad; a

(c) Swyddfa’r Llys Gweinyddol os yw’r cyfeirio i’r Uchel Lys o lys ynadon mewn achos sifil neu ddiannod neu oddi wrth Lys y Goron mewn achos diannod10.

Os caiff y cyfeirio ei drosglwyddo i Gaerdydd rhaid ffeilio copi ychwanegol o’r cyfeirio fel y gellir ei gadw gan Swyddfa Caerdydd. Caiff y cyfeirio gwreiddiol ei anfon i Swyddfa’r Llys Gweinyddol yn Llundain.

(5) yr un pryd ag y caiff y cyfeirio ei drosglwyddo i’r llys sy’n derbyn y cyfeirio anfonir copi o’r cyfeirio gyda’r post dosbarth cyntaf at:

(a) y partïon;

(b) y Twrnai Cyffredinol os nad yw ef eisoes yn barti; a

(c) y Cynulliad os nad yw eisoes yn barti;

(6) rhaid i bob un y cyflwynir copi o’r cyfeirio iddo roi gwybod i’r llys y trosglwyddir y cyfeirio iddo ac i eraill y cyflwynir y cyfeirio iddynt, o fewn 21 diwrnod, a ydynt am gael eu clywed ar y cyfeirio;

(7) bydd y llys sy’n derbyn y cyfeirio (naill ai’r Llys Apêl neu’r Uchel Lys) yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut y trafodir y cyfeirio, gan gynnwys cyflwyno argymhellion neu ddadleuon sgerbwd; a throsglwyddo copi o’r penderfyniad ar y cyfeirio i’r llys cyfeirio; a

(8) os ceir apêl i’r Pwyllgor Barnwrol yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl ar gyfeirio, ac os oes copi o benderfyniad y Pwyllgor Barnwrol ar yr apêl honno wedi ei anfon i’r Uchel Lys neu i’r Llys Apêl (fel y bo’n briodol), bydd y llys hwnnw’n anfon copi i’r llys a gyfeiriodd y mater datganoli iddo.

10.4

Pan fo llys yn derbyn hysbysiad o benderfyniad ar gyfeirio, bydd yn penderfynu ar sut i fwrw ymlaen â gweddill yr achos.

Back to top of page

P?er llys i ddelio ag achos yn yr arfaeth os gwneir cyfeirio (naill ai gan y Twrnai Cyffredinol, y Cynulliad neu’r llys)

11

Os gwneir cyfeirio bydd y llys yn gohirio neu’n atal yr achos lle y cododd y mater datganoli, oni bai ei fod yn gorchymyn fel arall; a bydd yn gwneud gorchmynion pellach fel y gwêl yn dda mewn perthynas ag unrhyw ohirio neu atal.

Back to top of page

Yr iaith Gymraeg

12.1

Os yw unrhyw barti’n dymuno cynnig haeriad ynglyn â mater datganoli sy’n cynnwys cymharu testunau Cymraeg a Saesneg unrhyw ddeddfwriaeth eilradd o eiddo’r Cynulliad, rhaid i’r parti hwnnw roi rhybudd i’r llys cyn gynted ag y bo modd.

12.2

Wrth dderbyn yr hysbysiad, bydd y llys yn ystyried y dull priodol o benderfynu’r mater, gan gynnwys, os oes angen, benodi asesydd barnwrol Cymraeg i gynorthwyo’r llys.

12.3

Rhaid i bartïon i unrhyw achos lle y caiff y Gymraeg o bosib ei defnyddio hefyd gydymffurfio â Chyfarwyddyd Ymarfer 16 Hydref 1998 (yn ymwneud ag achosion yn Llys y Goron) a Chyfarwyddyd Ymarfer 26 Ebrill 1999 (yn ymwneud ag achosion sifil). Mae’r Cyfarwyddiadau Ymarfer hyn yn berthnasol, fel y bo’n briodol, i achosion yn ymwneud â mater datganoli lle y bydd y Gymraeg o bosib yn cael ei defnyddio.

Back to top of page

Deddf Achosion y Goron 1947 (Adran 19)

13

Lle y mae llys wedi penderfynu bod achos datganoli’n codi, bydd y Twrnai Cyffredinol yn rhoi unrhyw gydsyniad angenrheidiol i:

(1) drosglwyddo’r achos i’r Llysoedd Barn, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3PG, neu i gofrestrfa ranbarthol arall a gaiff (yn eithriadol) ei chyfarwyddo gan y llys; a

(2) gynnal yr achos yng Nghaerdydd neu mewn lleoliad prawf arall a gaiff (yn eithriadol) ei chyfarwyddo gan y llys.

Back to top of page

Rhan III CYFARWYDDIADAU PERTHNASOL I ACHOSION PENODOL

Achosion adolygiad barnwrol

14.1

Mae’r Cyfarwyddyd Ymarfer sy’n ategu Rhan 5 (adolygiad barnwrol) yn cynnwys darpariaethau ynglyn â pha bryd y gellir dwyn achos adolygiad barnwrol yn y Llys Gweinyddol yng Nghymru.

Back to top of page

Achosion teulu mewn llysoedd ynadon, y llysoedd sirol a’r Uchel Lys

15.1

Mewn unrhyw achos lle y mae unrhyw gwestiwn yn codi ynglyn â chodi plentyn, bydd y llys yn rhoi sylw i’r egwyddor gyffredinol fod unrhyw oedi wrth benderfynu’r mater yn debyg o niweidio lles y plentyn.11

15.2

Os yw’r RhAT yn berthnasol, bydd y llys yn cydymffurfio â rheol 10.21.12

15.3

Os yw Rhan IV RhAT yn berthnasol, bydd y llys yn cydymffurfio â rheol 4.23.13

15.4

Os yw’r LlAT yn berthnasol, bydd y llys yn cydymffurfio â Rheolau 23 a 33A.14

15.5

Os caiff yr achos ei restru yng ngholofn (i) Atodiad 3 RhAT neu Atodlen 2 LlAT, rhaid i gopi o unrhyw rybudd a roddir i’r partïon gael ei roi hefyd i’r rhai a nodir yng ngholofn (iv) Atodiad 3 neu Atodlen 2 fel y bo’n addas.

15.6

Rhaid i barti sy’n dymuno codi mater datganoli, lle y bo modd, ei godi (gan roi manylion llawn y darpariaethau y dibynnir arnynt) yn y cais neu ateb neu yn y gwrandawiad cyfarwyddiadau cyntaf lle y bo’n addas.

15.7

Os nad yw parti wedi codi mater datganoli fel uchod, rhaid i’r parti geisio caniatâd y llys i godi’r mater yn ddiweddarach.

15.8

Lle y mae llys wedi cyfeirio’r mater datganoli i lys arall ac wedi derbyn rhybudd o’r penderfyniad ar y cyfeirio, dylai’r mater cyhyd ag y bo modd gael ei roi gerbron yr un barnwr neu’r un ynadon a ddeliodd â’r achos cyn y cyfeirio.

Back to top of page

Achosion sifil yn y llysoedd sirol a’r Uchel Lys

16.1

Rhaid i barti sydd am godi mater datganoli nodi yn y ffurflen gais, neu os ef yw’r diffynnydd, yn yr amddiffyniad (neu dystiolaeth ysgrifenedig wedi ei ffeilio gyda’r cydnabyddiad cyflwyno mewn cais Rhan 8) fod y cais yn codi mater datganoli a darpariaethau perthnasol DLlC.

16.2

Rhaid i’r manylion cais neu amddiffyniad os yw’r mater datganoli yn cael ei godi gan y diffynnydd (neu dystiolaeth ysgrifenedig a ffeiliwyd gyda’r cydnabyddiad cyflwyno mewn cais Rhan 8) gynnwys yn ddigon manwl y ffeithiau a’r amgylchiadau a’r pwyntiau cyfraith yr honnir ar eu sail bod mater datganoli’n codi i alluogi’r llys i benderfynu a yw mater datganoli’n codi yn yr achos.

16.3

Os yw’r rheolau dyrannu’n berthnasol ai peidio, os caiff cwestiwn ei godi yn ystod yr achos a allai fod yn fater datganoli, yna rhaid i wrandawiad cyfarwyddiadau gael ei gynnal a rhaid i’r mater gael ei gyfeirio i farnwr cylchdaith (mewn achosion llys sirol) neu i farnwr Uchel Lys (mewn achosion Uchel Lys) i benderfynu a oes mater datganoli’n codi ac i gael cyfarwyddiadau pellach.

16.4

Os yw parti’n methu â nodi yn y ddogfen briodol bod mater datganoli’n codi, ond os yw’r parti hwnnw wedi hynny’n dymuno codi mater datganoli, rhaid i’r parti hwnnw geisio caniatâd y llys.

16.5

Lle y bo unrhyw barti wedi nodi bod mater datganoli’n codi, ni ellir cael dyfarniad trwy ddiffyg.

Back to top of page

Achosion troseddol yn Llys y Goron

17.

Os yw’r diffynnydd am godi mater datganoli dylai wneud hynny yn y Gwrandawiad Ple a Chyfarwyddiadau.

Back to top of page

Achosion troseddol a sifil yn llysoedd yr ynadon

18.1

(1) Lle y bo diffynnydd, sydd wedi ei gyhuddo neu sydd wedi cael gwybodaeth wedi ei gosod yn ei erbyn ynglyn â thramgwydd droseddol ac sydd wedi nodi ple ‘Dieuog’, am godi mater datganoli, dylai, lle y bo modd, roi manylion llawn y darpariaethau y dibynnir arnynt trwy roi rhybudd ysgrifenedig.

(2) Lle y mae parti i gwyn, neu geisydd am drwydded am godi mater datganoli dylai, lle y bo modd, roi manylion llawn y darpariaethau y dibynnir arnynt trwy roi rhybudd ysgrifenedig.

(3) Dylid rhoi’r rhybudd hwn i’r erlyniad (ac i unrhyw barti arall os oes un) ac i’r llys cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl cyflwyno’r ple ‘Dieuog’ neu ar ôl gwneud y gwyn neu’r cais fel y bo’n addas.

18.2

Lle y caiff achos ei draddodi neu ei drosglwyddo i Lys y Goron gan yr ynadon, Llys y Goron sydd i benderfynu a oes mater datganoli’n codi.

Back to top of page

RHAN IV APELIADAU

Apeliadau i’r Llys Apêl (Adran Sifil a Throseddol)

19.1

Mae’r paragraff hwn yn berthnasol os yw mater datganoli’n codi mewn unrhyw apêl i Adran Sifil neu Adran Droseddol y Llys Apêl.

19.2

Mae’n bosibl bod y mater datganoli eisoes wedi codi yn y llys yr apelir yn erbyn ei benderfyniad. Gall y mater datganoli, serch hynny, godi am y tro cyntaf wrth apelio.

19.3

Lle y gwneir cais am ganiatâd i apelio, neu lle gwneir apêl pan nad oes angen caniatâd, rhaid i’r apelydd nodi yn y rhybudd cais (neu’r rhybudd apêl neu rybudd o gynnig fel y bo’n addas):

(1) fod yr apêl yn codi mater datganoli a darpariaethau perthnasol DLlC;

(2) yn ddigon manwl y ffeithiau a’r amgylchiadau a’r pwyntiau cyfraith yr honnir ar eu sail bod mater datganoli’n codi i alluogi’r llys i benderfynu a yw mater datganoli’n codi yn yr achos; a

(3) a ystyriwyd y mater datganoli yn y llys is, ac os felly, roi manylion y penderfyniad.

19.4

Ni chaiff apelydd geisio codi mater datganoli heb ganiatâd y llys ar ôl iddo ffeilio rhybudd cais; neu rybudd apêl neu rybudd o gynnig (os nad oes rhybudd cais).

19.5

Lle y ceisir caniatâd i apelio a lle y mae parti i’r apêl am godi mater datganoli na chodwyd yn y llys is, bydd y llys yn penderfynu a oes mater datganoli’n codi cyn penderfynu rhoi caniatâd i apelio.

Back to top of page

Apeliadau i Lys y Goron

20

Rhaid i rybudd apelio o benderfyniad llys yr ynadon i Lys y Goron nodi a ystyriwyd y mater datganoli yn y llys is, ac os felly, roi manylion y penderfyniad. Os nad ystyriwyd hyn, dylai’r rhybudd nodi:

(1) fod yr apêl yn codi mater datganoli a darpariaethau perthnasol DLlC; a

(2) yn ddigon manwl y ffeithiau a’r amgylchiadau a’r pwyntiau cyfraith yr honnir ar eu sail bod mater datganoli’n codi i alluogi’r llys i benderfynu a yw mater datganoli’n codi yn yr achos.

Back to top of page

ATODIAD 1

DI 1

MATERION DATGANOLI

Rhybudd Mater Datganoli i’r Twrnai Cyffredinol ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

[ENW’R ACHOS]

Bydded hysbys fod yr achos a grybwyllir uchod wedi codi mater datganoli fel y’i diffiniwyd gan Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Rhoddir manylion y mater datganoli yn yr atodlen a atodir.

Mae’r rhybudd hwn yn diwallu gofynion rhybuddio o dan baragraff 5(1) Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Gellwch gymryd rhan fel parti i’r achos hwn, cyhyd ag y bo’n ymwneud â mater datganoli (paragraff 5(2) Atodlen 8). Os ydych am wneud hyn rhaid i chi roi gwybod i’r llys trwy gwblhau’r ffurflen atodedig, a’i dychwelyd i’r llys yn [cyfeiriad ] erbyn [ dyddiad ].

DYDDIAD

At:   

Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Partïon eraill (lle y bo’n addas)


DI 2

MATERION DATGANOLI

Rhybudd o fwriad y Twrnai Cyffredinol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddod yn barti i achos, cyhyd ag y bo’n berthnasol i fater datganoli, o dan Baragraff 5(2) Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998

Yn [enw’r llys]

[enw’r achos]

Bydded hysbys fod y [Twrnai Cyffredinol ] [ Cynulliad Cenedlaethol Cymru ] yn bwriadu cymryd rhan fel parti i’r achos, cyhyd ag y bo’n ymwneud â mater datganoli fel a ganiateir gan baragraff 5(2) Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 mewn perthynas â’r mater datganoli a godwyd gan [ ], y derbyniwyd rhybudd ohono gan y [ Twrnai Cyffredinol ] [ Cynulliad ] ar [ ].

[Mae’r [ ] hefyd yn ei gwneud yn hysbys ei fod [yn mynnu bod y mater yn cael ei gyfeirio i ] [ yn dal i ystyried a ddylai fynnu bod y mater yn cael ei gyfeirio i ] Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor o dan baragraff 30 Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. ]

[DYDDIAD]

Ar ran y [Twrnai Cyffredinol] [ Cynulliad Cenedlaethol Cymru]

At:   

Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Partïon eraill (lle y bo’n addas)


DI 3

MATERION DATGANOLI

Rhybudd gan y Twrnai Cyffredinol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn mynnu bod y mater datganoli’n cael ei gyfeirio i Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor

Yn y [llys]

[enw’r achos]

Mae’r [Twrnai Cyffredinol] [Cynulliad Cenedlaethol Cymru] yn ei gwneud yn hysbys fod rhaid cyfeirio’r mater datganoli, a godwyd yn yr achos uchod y mae’n barti iddo, gael ei gyfeirio i Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor o dan baragraff 30 Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. [DYDDIAD]

Ar ran y [Twrnai Cyffredinol] [ Cynulliad Cenedlaethol Cymru]

At:   

Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Partïon eraill (lle y bo’n addas)


DI 4

MATERION DATGANOLI

Cyfeirio mater datganoli gan y llys neu dribiwnlys i [Uchel Lys] [Lys Apêl] [Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor]

Yn y [llys]

[enw’r achos]

Gorchmynnir cyfeirio’r mater(ion) datganoli a nodir yn yr atodlen [ i’r Uchel Lys] [ i’r Llys Apêl] [i Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor] i’w benderfynu yn unol â pharagraff [ ] Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.

Gorchmynnir ymhellach fod yr achos yn cael ei ohirio nes bod [yr Uchel Lys] [y Llys Apêl] [Pwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor] yn penderfynu ar y mater[ion] datganoli neu nes gorchymyn pellach.

DYDDIAD

Barnwr/clerc y llys ynadon

Cadeirydd y Tribiwnlys

[Cyfeiriad]


CYFEIRIO SGERBWD I’W ATODI WRTH FFURFLEN DI 4

Yn y [llys ]

[enw’r achos]

(a) [Y cwestiwn a gyfeiriwyd.]

(b) [Cyfeiriadau’r partïon]

(c) [Datganiad cryno o gefndir y materion gan gynnwys –

(i) Ffeithiau’r achos gan gynnwys unrhyw ganfyddiadau o ffaith gan y llys cyfeirio neu lysoedd is; a

(ii) Y prif bynciau yn yr achos a haeriadau’r partïon ynglyn â hwy;]

(ch) [Y ddeddf berthnasol gan gynnwys darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 1998]

(d) [Y rhesymau pam ystyrir bod ateb i’r cwestiwn yn angenrheidiol ar gyfer dibenion gwaredu’r achos.]

[Caiff yr hol ddyfarniadau a roddwyd eisoes yn yr achos eu hatodi wrth y cyfeirio hwn.]

ATODIAD 2

CYFEIRIADAU

(1) Rhaid i hysbysiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu hanfon at Gwnsel Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd. Rhif ffacs 01222 826798.

(2) Rhaid anfon hysbysiadau at y Twrnai Cyffredinol i Siambrau’r Twrnai Cyffredinol, 9 Buckingham Gate, Llundain, SW1E 6JP. Rhif ffacs 0171 271 2433.

(3) Gellir anfon cyfeirio i Swyddfa’r Goron o dan baragraff 14.2 y Cyfarwyddyd Ymarfer i Swyddfa’r Goron, Llysoedd Barn Brenhinol, Strand, Llundain WC2A 2LL; neu i’r Llysoedd Barn, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3PG (2 gopi).

Back to top of page

NODYN EGLURHAOL

(4) Y cyfeiriadau a’r rhifau ffacs uchod yw’r wybodaeth orau sydd ar gael, serch hynny y mae’n bosibl i’r rhain (yn enwedig y rhifau ffacs a’r cyfeiriad am Hysbysiadau i’r Cynulliad) newid, a byddai felly’n ddoeth cadarnhau’r rhifau cyn anfon gwybodaeth.

Back to top of page

Footnotes

1. Yr hawliau a rhyddid sylfaenol a nodir yn – (a) Erthyglau 2 i 12 ac 14 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ("CEHD"), (b) Erthyglau 1 i 3 o'r Protocol Cyntaf (cytunwyd ym Mharis 20 Mawrth 1952), ac (c) Erthyglau 1 a 2 y Chweched Protocol (cytunwyd yn Strasbourg 11 Mai 1994), fel y'u darllenir gydag Erthyglau 16 ac 18 CEHD (Adran 1 Deddf Hawliau Dynol 1998; a. 107(1) a (5) DLlC; adrannau 6(2); 24(1) a 98(1) DGI; adrannau 29(2); 57(2) a 126(1) DA).Return to footnote 1
2. Yr holl hawliau, pwerau, rhwymedigaethau, goblygiadau a chyfyngiadau a grëwyd neu sy'n deillio o bryd i'w gilydd gan neu o dan y Cytundebau Cymuned; a'r holl rwymedïau a threfniadaethau a ddarparwyd o bryd i'w gilydd ar gyfer, gan neu o dan y Cytundebau Cymuned (adrannau 106(7) a 155(1), DLlC; adrannau 6(2); 24(1) a 98(1), DGI; adrannau 29(2); 57(2) a 126(9) DA).Return to footnote 2
3. Pe bai'r Twrnai Cyffredinol neu'r Cynulliad wedi dod yn barti i'r achos gwreiddiol ond heb ymarfer eu hawl i fynnu bod y mater datganoli'n cael ei gyfeirio i'r Pwyllgor Barnwrol a'r llys wedi penderfynu'r achos, byddai ganddynt yr un hawl apêl â phartïon. Ni fyddai'r rhain yn caniatáu apêl iddynt ar benderfyniad a wnaed mewn achos ar dditiad, er bod gan y Twrnai Cyffredinol b?er o dan adran 36 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1972 i gyfeirio pwynt o gyfraith i'r Llys Apêl lle bo'r diffynnydd wedi ei farnu'n ddieuog mewn prawf ar dditiad.Mae paragraff 31, atodlen 8 DLlC, yn caniatáu i'r Twrnai Cyffredinol ac i'r Cynulliad gyfeirio i'r Pwyllgor Barnwrol unrhyw fater datganoli nad yw'n destun achos. Gellid defnyddio'r p?er hwn o bosib pe bai llys yn penderfynu a hwythau heb fod yn bartïon ac felly heb hawl apêl ond ni allai cyfeirio o'r fath effeithio ar benderfyniad y llys.Return to footnote 3
4. Os yw apêl mewn ffurf achos datganedig mewn achos troseddol yn mynd i Lys Adrannol ymddengys nad oes p?er gan y Llys Adrannol i gyfeirio mater datganoli i'r Llys Apêl.Return to footnote 4
5. e.e. mewn apeliadau o lys ynadon ar fater trwyddedu.Return to footnote 5
6. Caiff terfynau amser cadw yn y ddalfa eu gosod gan Reoliadau Erlyn Troseddau (Terfynau Amser yn y Ddalfa) 1987 fel y'u diwygiwyd.Return to footnote 6
7. Gweler Atodiad 2 am wybodaeth am rifau ffacs a chyfeiriadau.Return to footnote 7
8. Os oes apêl, bydd y llys apêl yn cyflwyno rhybudd mater datganoli i'r Twrnai Cyffredinol ac i'r Cynulliad (gweler paragraff 7.4).Return to footnote 8
9. Mewn achosion troseddol nid yw adran 16 Deddf Erlyn Troseddau 1985 yn galluogi llys sy'n derbyn cyfeirio i wneud gorchymyn costau diffynnydd. Os yw'r diffynnydd wedi hyn yn cael ei farnu'n ddieuog gan y llys sydd wedi gwneud y cyfeirio, gall y llys hwnnw wneud gorchymyn costau diffynnydd. Serch hynny ni fyddai'n ymwneud â chostau'r cyfeirio gan fod "achos" fel y'i diffinnir yn adran 21 yn cynnwys achos mewn unrhyw lys llai ond nid yw'n sôn am achos ar ôl cyfeirio.Return to footnote 9
10. Gweler Atodiad 2 am y cyfeiriadau perthnasol. Dengys y Llysoedd Barn, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3PG a'r Llysoedd Barn Brenhinol, Strand, Llundain WC2A 2LL fel cyfeiriadau eraill ar gyfer trosglwyddo dogfennau i Swyddfa'r Goron. Os caiff y gorchymyn ei drosglwyddo i Gaerdydd, caiff y copi ychwanegol ei anfon gan Swyddfa Caerdydd i Swyddfa'r Goron yn Llundain.Return to footnote 10
11. Adran 1(2), Deddf Plant 1989.Return to footnote 11
12. Noda Rheol 10.21: (1) Yn amodol ar reol 2.3 [RhAT] nid oes dim yn y rheolau hyn i gael ei ddeall mewn modd a fyddai'n mynnu bod unrhyw barti'n datgelu cyfeiriad ei drigfan breifat (neu un unrhyw blentyn) ac eithrio trwy orchymyn y llys. (2) Lle y bo parti'n gwrthod datgelu cyfeiriad wrth ddibynnu ar baragraff (1) uchod, bydd yn rhoi rhybudd o'r cyfeiriad hwnnw i'r llys yn Ffurflen C8 ac ni chaiff y cyfeiriad hwnnw ei ddatgelu i unrhyw un heblaw trwy orchymyn y llys.Return to footnote 12
13. Noda Rheol 4.23: (1) Er gwaethaf unrhyw reol llys i'r gwrthwyneb, ni chaiff unrhyw ddogfen, ac eithrio cofnod o orchymyn, a ddelir gan y llys ac sy'n ymwneud ag achos y mae [Rhan IV] yn berthnasol iddo, ei datgelu, ac eithrio i – (a) barti, (b) cynrychiolydd cyfreithiol parti (c) y gwarcheidwad ad litem, (d) y Bwrdd Cymorth Cyfreithiol, neu (e) swyddog lles, heb ganiatâd y barnwr neu'r barnwr rhanbarthol. (2) Ni fydd dim yn y rheol hon yn rhwystro rhoi rhybudd i'r awdurdod perthnasol gan y llys neu swyddog priodol o gyfarwyddyd o dan adran 37(1). (3) Ni fydd dim yn y rheol hon yn rhwystro datgelu dogfen a baratowyd gan warcheidwad ad litem ar gyfer dibenion – (a) galluogi person i gyflawni swyddogaethau a fynnir gan reoliadau a wnaed o dan adran 41(7); (b) cynorthwyo gwarcheidwad ad litem neu swyddog hysbysu (o fewn ystyr adran 65(1)(b) Deddf Mabwysiadu 1976) a benodir o dan unrhyw ddeddfiad i gyflawni ei swyddogaethau.Return to footnote 13
14. Noda Rheol 23: (1) Ni chaiff unrhyw ddogfen, ac eithrio cofnod o orchymyn, a ddelir gan y llys ac sy'n ymwneud ag achosion perthnasol ei datgelu, heblaw i – (a) parti, (b) cynrychiolydd cyfreithiol parti, (c) y gwarcheidwad ad litem, (d) y Bwrdd Cymorth Cyfreithiol, neu (e) swyddog lles, heb ganiatâd clerc yr ynadon neu'r llys. (2) Ni fydd dim yn y rheol hon yn atal y llys neu glerc yr ynadon rhag rhoi gwybod am gyfarwyddyd o dan adran 37(1) i'r awdurdod perthnasol. (3) Ni fydd dim yn y rheol hon yn rhwystro datgelu dogfen a baratowyd gan warcheidwad ad litem ar gyfer dibenion – (a) galluogi person i gyflawni swyddogaethau a fynnir gan reoliadau a wnaed o dan adran 41(7); (b) cynorthwyo gwarcheidwad ad litem neu swyddog hysbysu (o fewn ystyr adran 65(1)(b) Deddf Mabwysiadu 1976) a benodir o dan unrhyw ddeddfiad i gyflawni ei swyddogaethau.Noda Rheol 33A: (1) Nid oes dim yn y Rheolau hyn i gael ei ddeall mewn modd a fyddai'n mynnu bod unrhyw barti'n datgelu cyfeiriad ei drigfan breifat (neu un unrhyw blentyn) ac eithrio trwy orchymyn y llys. (2) Lle y bo parti'n gwrthod datgelu cyfeiriad wrth ddibynnu ar baragraff (1) uchod, bydd yn rhoi rhybudd o'r cyfeiriad hwnnw i'r llys yn Ffurflen C8 ac ni chaiff y cyfeiriad hwnnw ei ddatgelu i unrhyw un ac eithrio trwy orchymyn y llys.Return to footnote 14
Back to top of page
Ministry of Justice

Contact

Get email alerts
Find a form
Find a court form