CYFARWYDDYD YMARFER 54A – ADOLYGIAD BARNWROL

Rhan I—Darpariaethau cyffredinol ar gyfer adolygiad barnwrol

1.1 Yn ogystal â Rhan 54 a’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn, tynnir sylw at: (a) CPR Rhan 1; (b) Rhan 31 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981; (c) Deddf Hawliau Dynol 1998; a (d) Cyfarwyddyd Adolygiad Barnwrol y Llys Gweinyddol.

Y Llys

2.1 (1)  Ymdrinnir â hawliadau Rhan 54 am adolygiad barnwrol yn y Llys Gweinyddol.

(2)  Wrth ymarfer y pŵer o dan adran 18(6) Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, mae’r Arglwydd Brif Ustus wedi cyfarwyddo bod rhai dosbarthiadau o hawliadau adolygiad barnwrol yn dod o dan awdurdodaeth yr Uwch Dribiwnlys: gweler y cyfarwyddiadau dyddiedig 21 Awst 2013 a 24 Hydref 2014.

(3) Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 54C yn cynnwys darpariaethau ar ble y gellir dechrau, gweinyddu a gwrando hawliad am adolygiad barnwrol. O dan reol CPR 7.1A, y rheol gyffredinol yw bod hawliadau yn erbyn cyrff cyhoeddus yng Nghymru, sy’n herio cyfreithlondeb eu penderfyniadau, i’w dechrau a’u gwrando yng Nghymru.

Rheol 54.5-Terfyn Amser ar gyfer Ffeilio Ffurflen Hawliad

3.1 Lle mae’r hawliad yn un am orchymyn i ddiddymu dyfarniad, gorchymyn neu euogfarn, y dyddiad pan gododd y seiliau y gwnaed yr hawliad gyntaf arnynt, i bwrpas rheol 54.5(1)(b), yw dyddiad y dyfarniad, gorchymyn neu euogfarn dan sylw.

Rheol 54.6 – Ffurflen Hawliad

Cyffredinol

4.1(1) Rhaid i hawlydd sy’n gofyn am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol, ystyried ar frys neu ryddhad interim (p’un ai drwy hawliad wedi’i gynnwys yn y Ffurflen Hawliad ei hun, neu drwy hysbysiad cais ar wahân) sicrhau bod y Ffurflen Hawliad neu’r hysbysiad cais yn nodi’r holl ffeithiau perthnasol, hynny yw, yr holl ffeithiau sy’n berthnasol i’r hawliad neu’r cais. Rhaid i hawlydd wneud ymholiadau priodol ac angenrheidiol cyn gofyn am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol neu ryddhad interim, er mwyn sicrhau cyn belled ag y bo’n rhesymol bosib bod yr holl ffeithiau perthnasol yn hysbys.
(2) Dylai hawlydd gyfeirio at unrhyw ddarpariaeth statudol sy’n eithrio awdurdodaeth y llys i ystyried y cais, neu i roi’r rhyddhad y gofynnir amdano, a dylent hefyd gyfeirio at unrhyw drefn apêl arall sy’n bodoli, neu y gellid bod wedi’i dilyn cyn gofyn am adolygiad barnwrol.

Cynnwys y Ffurflen Hawliad

4.2(1) Rhaid i’r Ffurflen Hawliad gynnwys neu atodi’r dogfennau canlynol—

(a) datganiad clir a chryno o’r ffeithiau y dibynnir arnynt, wedi’u cyflwyno mewn paragraffau rhifedig – “Datganiad Ffeithiau”; a

(b) datganiad clir a chryno o’r seiliau dros ddod â’r hawliad – “Datganiad Seiliau”. Dylai’r Datganiad Seiliau: nodi mewn paragraffau rhifedig ar wahân bob sail dros herio; nodi’r ddarpariaeth neu egwyddor gyfreithiol berthnasol y dywedir ei bod wedi’i thorri; a chynnwys digon o fanylder am y tor-darpariaeth / egwyddor honedig fel bo’r partïon a’r llys yn gallu adnabod y materion hanfodol a honnir i fod yn codi. Dylai’r Datganiad Seiliau egluro’n gryno beth yw achos yr hawlydd drwy gyfeirio at y Datganiad Ffeithiau gan nodi’n glir ba ryddhad y gofynnir amdano.

(2) Gall y Datganiad Ffeithiau a’r Datganiad Seiliau fod yn un ddogfen.

(3) Dylai’r Datganiad Ffeithiau a Seiliau fod mor gryno â phosib. Ni ddylai’r ddwy ddogfen gyda’i gilydd (neu’r un ddogfen os wedi eu cyfuno) fod dros 40 tudalen. Yn aml iawn bydd y llys yn disgwyl i’r dogfennau fod yn llawer byrrach na 40 tudalen. Gall y llys roi caniatâd i fynd dros yr uchafswm o 40 tudalen.

4.3 Dylai unrhyw gais (a) i ymestyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio Ffurflen Hawliad; a / neu (b) am gyfarwyddiadau yn yr hawliad, gael ei gynnwys mewn dogfen sy’n atodi’r Ffurflen Hawliad.

4.4(1) Yn ogystal, rhaid i’r Ffurflen Hawliad gael ei hatodi gan—

(a) unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi’r hawliad (yn y cyswllt hwn, gweler hefyd reolau 8.5(1) ac 8.5(7)).

(b) unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig arall i gefnogi unrhyw gais arall sydd wedi’i gynnwys yn y Ffurflen Hawliad;

(c) copi o unrhyw orchymyn y mae'r hawlydd yn gofyn am ei ddiddymu;

(d) pan fydd yr hawliad am adolygiad barnwrol yn ymwneud â phenderfyniad gan Lys neu Dribiwnlys, copi cymeradwy o’r rhesymau am y penderfyniad hwnnw;

(e) pan fydd yr hawliad wedi’i gyfeirio at benderfyniad unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, copi o unrhyw gofnod o’r penderfyniad sy’n cael ei herio;

(f) copïau o unrhyw ddogfennau y bydd yr hawlydd yn dibynnu arnynt;

(g) copïau o unrhyw ddeunydd statudol perthnasol; a

(h) rhestr o ddogfennau hanfodol i’w darllen ymlaen llaw gan y Llys (a chyfeiriadau tudalen at y rhannau y bwriedir dibynnu arnynt).

(2) Pan nad yw’n bosib ffeilio’r holl ddogfennau uchod, rhaid i’r hawlydd nodi pa ddogfennau na chawsant eu ffeilio a pham nad ydynt ar gael ar hyn o bryd.

Bwndel yr hawliad

4.5(1) Rhaid i’r hawlydd baratoi bwndel wedi’i dudalennu a’i fynegeio yn cynnwys yr holl ddogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau 4.2 a 4.4. Rhaid hefyd paratoi fersiwn electronig o’r bwndel yn unol â’r Canllawiau ar wefan y Llys Gweinyddol.

(2) Rhaid i’r hawlydd (oni ofynnwyd yn wahanol) ffeilio’r bwndel gyda’r Llys ar ffurf electronig a chopi caled. Ar gyfer achosion y Llys Adrannol, bydd angen un bwndel copi caled i bob barnwr sy’n gwrando’r achos.

Partïon â budd

4.6(1) Rhaid i bob unigolyn sy’n barti â budd (gweler rheol 54.1(2)(f) gael eu henwi yn y Ffurflen Hawliad (gweler rheol 54.6(1)(a)), a rhaid cyflwyno’r Ffurflen Hawlio iddynt (gweler rheol 54.7(b).
(2) Pan fydd yr hawliad am adolygiad barnwrol yn ymwneud ag achos mewn llys neu dribiwnlys, bydd unrhyw barti arall yn yr achos hwnnw’n barti â budd yn achos yr adolygiad barnwrol. Er enghraifft, os yw’r diffynnydd mewn achos troseddol yn y Llys Ynadon neu Lys y Goron yn gwneud cais am adolygiad barnwrol o benderfyniad yn yr achos hwnnw, rhaid enwi’r erlyniad bob amser fel parti â budd yn yr hawliad adolygiad barnwrol.

Hawliau dynol

4.7 Pan fydd yr hawlydd yn gofyn am godi mater o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, neu’n gofyn am rwymedi o dan y Ddeddf honno, rhaid i’r Ffurflen Hawliad gynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen o dan baragraff 15 o Gyfarwyddyd Ymarfer 16.

Materion datganoli

4.8(1) Yn y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn, mae gan “mater datganoli” yr un ystyr ag ym mharagraff 1 Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2006, paragraff 1 Atodlen 10 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998; a pharagraff 1 Atodlen 6 i Ddeddf yr Alban 1998.
(2) Pan fydd yr hawlydd yn bwriadu codi mater datganoli, rhaid i’r Ffurflen Hawliad: (a) nodi bod yr hawlydd yn dymuno codi mater datganoli gan nodi’r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, Deddf Gogledd Iwerddon 1998 neu Ddeddf yr Alban 1998; a (b) cynnwys crynodeb o’r ffeithiau, amgylchiadau a phwyntiau cyfreithiol yr honnir bod mater datganoli’n codi ar eu sail.

Rheol 54.7—Cyflwyno’r Ffurflen Hawliad

5.1 Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau ar gyflwyno Ffurflenni Hawliad. Ac eithrio fel sy’n ofynnol gan reolau 54.11 neu 54.12(2), ni fydd y Llys Gweinyddol yn cyflwyno dogfennau - rhaid i’r hawliad gael ei gyflwyno gan y partïon.

5.2 Pan mai’r diffynnydd neu barti â budd yn yr hawliad am adolygiad barnwrol yw—

(a) Siambr Mewnfudo a Lloches y Tribiwnlys Haen Gyntaf, y cyfeiriad ar gyfer cyflwyno’r Ffurflen Hawliad yw—

(drwy’r post)
Customer Investigations Team
Operations Directorate - HMCTS
Post Point 5.12
102 Petty France
Llundain
SW1H 9AJ

(drwy e-bost)
Litigation_Team_C@justice.gov.uk

(b) y Goron, rhaid i’r Ffurflen Hawliad gael ei chyflwyno i’r cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran yr adran berthnasol o’r llywodraeth fel pe bai’r achos yn achos sifil yn unol â diffiniad Deddf Achosion y Goron 1947. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 66 yn cynnwys rhestr, wedi’i chyhoeddi o dan Adran 17 o Ddeddf Achosion y Goron 1947, o’r cyfreithwyr sy’n gweithredu mewn achosion sifil (fel y’u diffiniwyd yn y Ddeddf honno) ar gyfer y gwahanol adrannau o’r llywodraeth y dylid cyflwyno iddynt, a’u cyfeiriadau.

Rheol 54.8—Cydnabyddiad Cyflwyno

6.1 Rhaid i’r Cydnabyddiad Cyflwyno gynnwys yr wybodaeth a nodir yn rheolau 8.3(2) a 10.5. Gweler hefyd y gofynion yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 10.

6.2(1) Os yw diffynnydd yn dewis ffeilio Cydnabyddiad Cyflwyno, dylai’r Seiliau Cryno y cyfeiriwyd atynt yn CPR 54.8(4)(a) gwrdd â’r gofynion canlynol.

(2) Dylai’r Seiliau Cryno nodi, yn gryno, yr holl ffeithiau perthnasol. Dylid nodi’n glir unrhyw fater o anghydfod ffeithiol perthnasol (os oes rhai). Dylai’r Seiliau roi crynodeb byr o’r rhesymau am y penderfyniad y gofynnir am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol yn ei gylch oni bai fod y diffynnydd yn rhoi rhesymau pam y gellir penderfynu’r cais am ganiatâd heb yr wybodaeth honno.

(3) Dylai’r Seiliau Cryno (eto, yn fyr a chryno) egluro beth yw sail gyfreithiol ymateb y diffynnydd i achos yr hawlydd, drwy gyfeirio at y ffeithiau perthnasol.

(4) Dylai’r Seiliau Cryno fod mor fyr a chryno â phosib. Ni ddylai’r Seiliau Cryno fod yn fwy na 30 tudalen. Yn aml iawn, bydd y llys yn disgwyl i’r Seiliau Cryno fod gryn dipyn yn llai. Gall y llys roi caniatâd i fynd dros yr uchafswm o 30 tudalen.

Rheol 54.10—Cyfarwyddiadau Caniatâd Wedi’i Roi

7.1 Gall cyfarwyddiadau rheoli achosion o dan reol 54.10(1) gynnwys cyfarwyddiadau ar gyflwyno’r Ffurflen Hawliad ac unrhyw dystiolaeth arall i unigolion eraill.

7.2 Lle gwneir hawliad o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, gellir gwneud cyfarwyddyd i roi hysbysiad i’r Goron neu ymuno â’r Goron fel parti. Tynnir sylw at reol 19.4A (partïon i hawliadau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol) a pharagraff 6 o Gyfarwyddyd Ymarfer 19A (yn hysbysu’r Goron o hawliadau am ddatganiadau anghydnawsedd).

Rheol 54.12—Penderfynu ar ganiatâd heb gynnal gwrandawiad

7.3 Yn y lle cyntaf, bydd y llys fel rheol yn ystyried y cwestiwn o ganiatâd heb gynnal gwrandawiad.

Gwrandawiadau caniatâd

7.4 Nid oes angen i’r diffynnydd na’r un parti â budd arall fynychu gwrandawiad ar y cwestiwn o ganiatâd oni bai fod y llys yn cyfarwyddo fel arall.

7.5 Pan fydd y diffynnydd neu unrhyw barti’n mynychu gwrandawiad, ni fydd y llys fel rheol yn gwneud gorchymyn costau yn erbyn yr hawlydd.

Ceisiadau drachefn am ganiatâd

7.6 Pwrpas y cais i ailystyried penderfyniad i wrthod caniatâd (rheol 54.12(3)) yw adnabod cwmpas y cais a wneir drachefn. Rhaid i’r cais fod yn gryno. Dylai adnabod ar ba seiliau y dibynnir arnynt i gefnogi’r cais drachefn ac ateb y rhesymau a roddwyd gan y Barnwr a wrthododd ganiatâd ar sail y papurau.

7.7 Yr amcan-amser arferol i wrando cais a wneir drachefn yw 30 munud (gan gynnwys amser ar gyfer dyfarniad). Rhaid i unrhyw gais am restriad hirach gael ei nodi yn y cais. Sut bynnag, o fewn saith diwrnod i ddyddiad ffeilio’r cais, rhaid i’r partïon ddweud wrth y Llys beth yw’r amcan-amser a gytunwyd ar gyfer y gwrandawiad.

Rheol 54.11—Cyflwyno Gorchymyn yn Rhoi neu’n Gwrthod Caniatâd

8.1 Rhaid i unrhyw orchymyn yn gwrthod caniatâd neu’n rhoi caniatâd ar sail amodau, neu ar seiliau penodol yn unig, ddisgrifio neu gynnwys rhesymau’r llys dros wneud y penderfyniad hwnnw.

Rheol 54.14—Ymateb

9.1(1) Os yw parti sy’n rhaid iddynt ffeilio Seiliau Manwl eisoes wedi ffeilio Seiliau Cryno, gall y parti hwnnw (os yw’r holl faterion perthnasol eisoes wedi eu nodi yn y Seiliau Cryno) hysbysu’r llys a’r holl bartïon eraill mai’r Seiliau Cryno a fydd eu Seiliau Manwl.

(2) Os yw parti yn ffeilio a chyflwyno Seiliau Manwl, dylai’r ddogfen honno fod mor gryno â phosib ac ni ddylai fod dros 40 tudalen. Gall y llys roi caniatâd i fynd dros yr uchafswm o 40 tudalen.

(3) Pan fydd parti sy’n ffeilio Seiliau Manwl yn bwriadu dibynnu ar dystiolaeth ysgrifenedig neu ar ddogfennau na ffeiliwyd yn barod, rhaid i’r parti hwnnw baratoi bwndel wedi’i dudalennu a’i fynegeio yn cynnwys y dystiolaeth honno a’r dogfennau hynny. Rhaid hefyd paratoi fersiwn electronig o’r bwndel yn unol â’r Canllawiau ar wefan y Llys Gweinyddol.

9.2 Rhaid i’r parti ffeilio a chyflwyno fersiynau electronig a chopi caled o’r bwndel pan fydd y parti’n ffeilio a chyflwyno’r Seiliau Manwl.

Rheol 54.16—Tystiolaeth

10.1 Yn unol â’r ddyletswydd i fod yn onest dylai’r diffynnydd, yn ei Seiliau Manwl neu dystiolaeth, adnabod unrhyw ffeithiau, a rhesymau, sy’n berthnasol i’r penderfyniad y rhoddwyd caniatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol ar ei sail.

10.2 Nid oes angen datgelu oni bai fod y llys yn gorchymyn hynny.

10.3 Pur anaml y bydd angen i’r llys wrando tystiolaeth lafar mewn achos adolygiad barnwrol. Rhaid i unrhyw gais o dan reol 8.6(2) am ganiatâd i ddyfynnu tystiolaeth lafar, neu i groesholi unrhyw dyst, gael ei wneud yn ddi-oed ac yn unol â gofynion Rhan 23, a dylid cefnogi hynny drwy egluro’r rhesymau dros fod angen y dystiolaeth er mwyn gallu penderfynu’r hawliad yn deg.

Rheol 54.15—Pan fydd Hawlydd Eisiau Dibynnu ar Seiliau Ychwanegol

11.1 Pan fyd yr hawlydd yn bwriadu gwneud cais am adolygiad barnwrol ar seiliau ychwanegol i’r rhai a nodir yn y Ffurflen Hawliad, rhaid i’r hawlydd wneud cais i’r llys am ganiatâd i ddiwygio’r Ffurflen Hawliad. Dylid gwneud y cais yn unol â gofynion Rhan 23.

11.2 Rhaid gwneud y cais yn ddi-oed a dylai gynnwys, neu gael ei atodi gan, ddrafft o’r seiliau diwygiedig ynghyd â thystiolaeth yn egluro pam fod angen y diwygiad arfaethedig ac unrhyw oedi gyda gwneud y cais am ganiatâd i ddiwygio.

11.3 Rhaid cyflwyno’r cais, y seiliau ychwanegol arfaethedig ac unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig, i’r diffynnydd ac unrhyw barti â budd a enwir yn y Ffurflen Hawliad neu’r Cydnabyddiad Cyflwyno.

11.4 Ibwrpas penderfynu cais i ddibynnu ar seiliau ychwanegol, bydd rheolau 17.1 a 17.2 yn berthnasol. Lle rhoddir caniatâd i ddibynnu ar seiliau ychwanegol, gallai’r llys gyfarwyddo ynghylch diwygiadau sydd i’w gwneud i Seiliau neu Seiliau Manwl y diffynnydd a / neu unrhyw gyfarwyddiadau rheoli achos eraill, fel y bo’n briodol.

Rheol 54.17—Pwerau’r Llys i Wrando Unrhyw Unigolyn

12.1 Dylai cais am ganiatâd i ymyrryd o dan reol 54.17 gael ei wneud drwy gais yn yr achos perthnasol, yn unol â darpariaethau Rhan 23.

12.2 Rhaid gwneud pob cais o’r fath yn ddioed. Mae’r Llys yn annhebygol o gytuno i gais i ymyrryd pe bai’n achosi oedi i wrando’r achos perthnasol o ganlyniad.

12.3Rhaid cyflwyno’r Hysbysiad Cais i holl bartïon yr achos.

12.4 (1) Mae’r ddyletswydd i fod yn onest yn berthnasol. Dylai’r Hysbysiad Cais egluro pwy yw’r ceisydd a nodi pam ac ym mha ffurf y mae’r ceisydd eisiau cymryd rhan yn y gwrandawiad.

(2) Os yw’r ceisydd yn gofyn am ganiatâd i wneud sylwadau yn y gwrandawiad, dylai’r cais gynnwys crynodeb o’r sylwadau y mae’r ceisydd yn bwriadu eu gwneud.

(3) Os yw’r ceisydd yn gofyn am ganiatâd i ffeilio a chyflwyno tystiolaeth yn yr achos, dylid cynnwys copi o’r dystiolaeth honno gyda’r Hysbysiad Cais. Dylai’r cais egluro perthnasedd unrhyw dystiolaeth o’r fath i’r materion a drafodir yn yr achos.

12.5 Os yw’r ceisydd yn gofyn am orchymyn ôl-weithredol o ran costau, sy’n ymadael â’r ddarpariaeth a wneir o dan adran 87 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015, rhaid i’r ceisydd gynnwys copi o’r gorchymyn y mae’n gofyn amdano a nodi ar ba seiliau y gofynnir am y gorchymyn.

12.6Pan fydd y llys yn rhoi caniatâd i unigolyn ffeilio tystiolaeth neu wneud sylwadau yng ngwrandawiad yr hawliad am adolygiad barnwrol (yn llafar neu’n ysgrifenedig), gall wneud hynny drwy roi amodau a gall hefyd wneud cyfarwyddiadau rheoli achos.

12.7 Pan fydd yr holl bartïon yn cytuno, gall y llys ddelio gyda’r cais o dan reol 54.17 heb gynnal gwrandawiad.

Rheol 54.20—Trosglwyddo

13.1 O dan reol 30.5, rhoddir y pŵer i drosglwyddo achos rhwng Adrannau’r Uchel Lys ac i / oddi ar restr arbenigol. Wrth benderfynu a yw hawliad yn addas i’w drosglwyddo i’r Llys Gweinyddol, bydd y llys yn ystyried a oes mater o gyfraith gyhoeddus yn codi y dylai Rhan 54 fod yn berthnasol iddo.

Dadleuon Fframwaith

14.1 Pwrpas dadl fframwaith yw cynorthwyo’r llys drwy gyflwyno, mor gryno â phosib, y dadleuon y mae parti’n bwriadu dibynnu arnynt.

14.2 (1) Rhaid i ddadl fframwaith fod yn gryno. Dylai ddiffinio a chyfyngu’r meysydd dadleuol; dylai fod ar ffurf paragraffau rhifedig; dylai fod wedi’i groesgyfeirio at unrhyw ddogfen berthnasol yn y bwndel; dylai fod yn hunangynhwysol ac ni ddylai ymgorffori, drwy gyfeiriad, unrhyw ddeunydd o ddadleuon fframwaith neu blediadau blaenorol; ac ni ddylai ddyfynnu’n helaeth o ddogfennau neu ffynonellau awdurdodol. Rhaid nodi’r dogfennau y bwriedir dibynnu arnynt.

(2) Pan fydd angen cyfeirio at ffynhonnell awdurdodol, rhaid i ddadl fframwaith: nodi’r gosodiad yn y gyfraith y mae’r ffynhonnell awdurdodol yn ei ddangos; a pha rannau o’r ffynhonnell awdurdodol sy’n ategu’r gosodiad. Os dyfynnir mwy nag un ffynhonnell awdurdodol i ategu gosodiad penodol, rhaid i’r ddadl fframwaith nodi pam, yn fyr.

14.3 Ni ddylai Dadleuon Fframwaith fod dros 25 tudalen. Gall y llys roi caniatâd i fynd dros yr uchafswm o 25 tudalen.

14.4 Bydd unrhyw ddadl fframwaith nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion uchod efallai’n cael ei ddychwelyd i’w awdur gan Swyddfa’r Llys Gweinyddol ac ni fydd yn cael ei ail-ffeilio oni bai a hyd nes y bo’n cydymffurfio. Gall y llys beidio â chaniatáu costau paratoi dadl fframwaith os nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion hyn.

14.5 Rhaid i’r hawlydd ffeilio a chyflwyno dadl fframwaith 21 diwrnod o leiaf cyn dyddiad y gwrandawiad (neu’r dyddiad a rybuddiwyd).

14.6Rhaid i’r diffynnydd ac unrhyw barti arall sydd am gyflwyno sylwadau yng ngwrandawiad yr adolygiad barnwrol ffeilio a chyflwyno dadl fframwaith o leiaf 14 diwrnod gwaith cyn dyddiad y gwrandawiad (neu’r dyddiad a rybuddiwyd).

14.7 O leiaf saith diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad (neu’r dyddiad a rybuddiwyd), rhaid i’r partïon ffeilio: (a) rhestr wedi’i chytuno o’r materion; (b) cronoleg wedi’i chytuno o’r digwyddiadau (gyda chyfeiriadau tudalen i fwndel y gwrandawiad); a (c) rhestr wedi’i chytuno o’r dogfennau hanfodol i’w darllen ymlaen llaw gan y llys (gyda chyfeiriadau tudalen ym mwndel y gwrandawiad at y rhannau y dibynnir arnynt) ynghyd ag amcan-amser i’w darllen.

Bwndel y Gwrandawiad a Bwndel y Ffynonellau Awdurdodol

15.1 Rhaid i’r partïon gytuno ar gynnwys bwndel wedi’i dudalennu a’i fynegeio yn cynnwys yr holl ddogfennau perthnasol (neu ddarnau ohonynt) y bydd ei angen i wrando’r adolygiad barnwrol (“bwndel y gwrandawiad”). Pan fydd bwndel y gwrandawiad yn fwy na 400 tudalen, rhaid i’r partïon gytuno ar gynnwys bwndel craidd. Rhaid i’r bwndel craidd fod wedi’i dudalennu a’i fynegeio a dylai gynnwys y plediadau, copi o’r penderfyniad sy’n cael ei herio yn yr achos, ac unrhyw ddogfennau pellach (neu rannau ohonynt) y mae’r partïon yn eu hystyried i fod yn hanfodol i bwrpas y gwrandawiad. Rhaid i bob parti (neu’r cyfreithiwr yn gweithredu ar ran bob parti) ardystio bod bwndel y gwrandawiad ac unrhyw fwndel craidd yn ateb gofynion y paragraff hwn.

15.2 Rhaid hefyd paratoi fersiwn electronig o’r bwndel (ac unrhyw fwndel craidd) yn unol â’r Canllawiau ar wefan y Llys Gweinyddol.

15.3O leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad (neu’r dyddiad a rybuddiwyd), rhaid i’r partïon gyflwyno bwndel y gwrandawiad (ac unrhyw fwndel craidd) i’r llys, yn electronig ac fel copi caled. Ar gyfer achosion y Llys Adrannol, bydd angen un bwndel copi caled i bob barnwr sy’n gwrando’r achos.

15.4 Rhaid i’r partïon gytuno ar gynnwys bwndel y ffynonellau awdurdodol y bwriedir cyfeirio atynt yng ngwrandawiad yr adolygiad barnwrol (“bwndel ffynonellau awdurdodol”). Rhaid hefyd paratoi fersiwn electronig o’r bwndel yn unol â’r Canllawiau ar wefan y Llys Gweinyddol.

15.5 O leiaf 7 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad (neu’r dyddiad a rybuddiwyd), rhaid i’r partïon gyflwyno bwndel y ffynonellau awdurdodol i’r llys, ar ffurf electronig ac fel copi caled. Ar gyfer achosion y Llys Adrannol, bydd angen un bwndel copi caled i bob barnwr sy’n gwrando’r achos.

Gorchymyn Terfynol wedi’i Gytuno

16.1 Os yw’r partïon, cyn dyfarnu ar hawliad, yn cytuno ar delerau gorchymyn terfynol yn ateb a phenderfynu’r hawliad, rhaid i’r hawlydd ffeilio tri chopi o’r gorchymyn wedi’i gytuno arfaethedig ynghyd â datganiad byr wedi’i gytuno yn nodi’r materion y dibynnir arnynt i gyfiawnhau’r gorchymyn wedi’i gytuno arfaethedig, ynghyd â chopïau o unrhyw ffynonellau awdurdodol neu ddarpariaethau statudol y dibynnir arnynt. Rhaid i holl bartïon yr hawliad lofnodi’r gorchymyn drafft a’r datganiad wedi’i gytuno.

16.2 Bydd y llys yn ystyried y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 16.1 ac yn gwneud y gorchymyn os yw’n fodlon y dylid gwneud hynny.

16.3 Os nad yw’r llys yn fodlon y dylid gwneud y gorchymyn, bydd dyddiad i gynnal gwrandawiad yn cael ei benderfynu.

16.4 Pan fydd y cytundeb yn ymwneud â gorchymyn costau’n unig, bydd angen i’r partïon ond ffeilio dogfen wedi’i llofnodi gan yr holl bartïon yn nodi telerau’r gorchymyn arfaethedig.

Adran II—Darpariaethau ychwanegol ar gyfer ceisiadau am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol mewn achosion mewnfudo a lloches—herio symud ymaith

17.1 (1) Mae’r adran hon yn berthnasol pan fydd—

(a) copi wedi’i gyflwyno i unigolyn yn cyfarwyddo ei symud ymaith o’r Deyrnas Unedig gan Fisâu a Mewnfudo’r DU ("UKVI") ac yn ei hysbysu bod yr adran hon yn berthnasol; a

(b) bod yr unigolyn hwnnw neu honno yn gwneud cais am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol cyn ei symud ymaith.

(2) Nid yw’r adran hon yn atal unigolyn rhag gwneud cais am adolygiad barnwrol ar ôl iddynt gael eu symud ymaith.

17.2 (1) Rhaid i unigolyn sy’n gwneud cais am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol ffeilio ffurflen hawliad a chopi yn y llys, a rhaid i’r Ffurflen Hawliad—

(a) nodi arni fod yr Adran yma o’r Cyfarwyddyd Ymarfer yn berthnasol; a

(b) chael ei hatodi gan—

(i) copi o’r cyfarwyddiadau symud ymaith a’r penderfyniad y mae’r cais yn berthnasol iddo; a

(ii) unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cyfarwyddiadau symud ymaith, gan gynnwys unrhyw ddogfen yn cynnwys crynodeb ffeithiol gan UKVI o’r achos; a

(c) cynnwys neu gael ei hatodi gan ddatganiad clir a chryno o seiliau’r hawlydd dros wneud hawliad am adolygiad barnwrol; a

(d) nodi cyfeirnod Swyddfa Gartref yr hawlydd arni;

Os nad yw’r hawlydd yn gallu cydymffurfio â pharagraff (b) neu (c) neu (d) uchod, rhaid i’r Ffurflen Hawliad gynnwys neu gael ei hatodi gan ddatganiad o’r rhesymau pam ddim.

(2) Rhaid i’r hawlydd, yn syth wrth ffeilio’r hawliad, anfon copïau o’r Ffurflen Hawliad a ffeiliwyd ac unrhyw ddogfennau atodol i’r cyfeiriad a nodir gan UKVI.

(Hefyd o dan reol 54.7, rhaid cyflwyno’r Ffurflen Hawliad i’r diffynnydd o fewn saith diwrnod i ddyddiad ei ffeilio. O dan reol 6.10 wrth gyflwyno i un o Adrannau’r Llywodraeth, rhaid cyflwyno i’r cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran yr Adran honno, ac yn achos UKVI yr adran honno yw Adran Gyfreithiol y Llywodraeth (“GLD”). Mae cyfeiriad GLD ar gael yn yr Atodiad i Ran 66 y Rheolau hyn.)

17.3 Os nad yw’r hawlydd wedi gallu cydymffurfio â pharagraff 17.2(1)(b) neu (c) neu (d) ond wedi rhoi’r rhesymau pam ddim, ac mae’r llys wedi ffeilio’r Ffurflen Hawliad, bydd y Llys Gweinyddol—

(a) yn cyfeirio’r mater at Farnwr i’w ystyried cyn gynted ag y bo’n ymarferol; ac

(b) yn hysbysu’r partïon ei fod wedi gwneud hynny.

17.4 Ar ôl gwrthod rhoi caniatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol, os yw Llys yn penderfynu bod y cais yn amlwg heb haeddiant, bydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei gynnwys yn y gorchymyn yn gwrthod y caniatâd.

Adran III—Darpariaethau ychwanegol ar gyfer ceisiadau am adolygiad barnwrol o benderfyniadau’r Uwch Dribiwnlys

18.1 Rhaid i unigolyn sy’n gwneud cais am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol o benderfyniad yr Uwch Dribiwnlys yn gwrthod caniatâd i apelio, ffeilio Ffurflen Hawliad. Rhaid i’r Ffurflen Hawliad:                                                                                                                              (a) nodi fod y cais wedi’i wneud o dan reol 54.7A; (b) nodi’n gryno ar ba seiliau y dadleuir bod y meini prawf yn rheol 54.7A(7) yn cael eu cwrdd; ac (c) cael ei hatodi gan y dogfennau ategol sy’n ofynnol o dan reol 54.7A(4).

18.2 Pan roddir caniatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol ac os yw’r Uwch Dribiwnlys neu unrhyw barti â budd eisiau cynnal gwrandawiad ar y prif gais o dan reol 54.7A(9), rhaid iddynt wneud cais am wrandawiad o’r fath yn ysgrifenedig (drwy lythyr, gyda chopi i’r hawlydd) dim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl i’r gorchymyn yn rhoi caniatâd gael ei gyflwyno.

Contact

Get email alerts
Find a form
Find a court form