CYFARWYDDYD YMARFER 54B – CEISIADAU BRYS A CHEISIADAU ERAILL AM RYDDHAD INTERIM
Adran I – ceisiadau brys, cyffredinol
1.1 Gellir gwneud ceisiadau brys, mewn hawliadau Llys Gweinyddol, i’r llys rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 10am-4.30pm. (Y tu allan i’r oriau hyn, dylid cyflwyno ceisiadau brys i’r barnwr tu allan i oriau yn Adran Mainc y Frenhines.)
1.2 Rhaid gwneud ceisiadau brys yn defnyddio Ffurflen N463 (“Adolygiad Barnwrol: Cais i’w ystyried ar frys”). Rhaid darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol yn y Ffurflen. Yn enwedig, rhaid i’r ceisydd nodi’r rhesymau pam fod angen ystyried y cais ar frys, y rhesymau pam na wnaed y cais yn gynt ac erbyn pryd y gofynnir i’r cais gael ei ystyried. Rhaid i’r Ffurflen gael ei llofnodi a’i hategu gan y Datganiad Gwirionedd angenrheidiol.
1.3 Rhaid i’r ceisydd baratoi bwndel wedi’i dudalennu a’i fynegeio (“bwndel y cais”) a ddylai gynnwys Ffurflen N463 ac unrhyw ddeunydd arall sy’n ofynnol ei ddarparu fel rhan o’r cais gan y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn. Dylai’r bwndel gynnwys yr ohebiaeth cyn-cais sy’n berthnasol i’r hawliad am adolygiad barnwrol a’r holl ohebiaeth gyda’r diffynnydd yn ymwneud â’r cais brys. Rhaid hefyd paratoi fersiwn electronig o fwndel y cais yn unol â’r Canllawiau ar wefan y Llys Gweinyddol. Rhaid ffeilio bwndel y cais ar yr un pryd â Ffurflen N463.
1.4 Llundain. Gellir ffeilio ceisiadau brys gyda’r llys yn Llundain drwy e-bostio immediates@administrativecourtoffice.justice.gov.uk . Gellir hefyd eu ffeilio drwy eu hanfon i Swyddfa’r Llys Gweinyddol yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn y Strand, Llundain, WC2A 2LL.
1.5 Swyddfeydd y Llys Gweinyddol y tu allan i Lundain. Pan fydd angen gwneud cais brys i’r Llys Gweinyddol y tu allan i Lundain, rhaid gwneud y cais i’r Swyddfa berthnasol: gweler Gyfarwyddyd Ymarfer 54C.
1.6 Nid y fan lle bydd cais brys yn cael ei wneud, ynddo’i hun, fydd yn penderfynu ble y gweinyddir neu ble y penderfynir yr hawliad ymhellach. Bydd hyn yn cael ei benderfynu’n unol â darpariaethau Cyfarwyddyd Ymarfer 54C.
1.7 Rhaid i’r ceisydd gyflwyno Ffurflen N463 a bwndel y cais i’r diffynnydd ac unrhyw barti â budd naill ai (a) cyn i’r cais gael ei ffeilio gyda’r llys; neu os nad yw hynny’n bosib (b) pan fydd y cais yn cael ei ffeilio gyda’r llys. Rhaid i’r ceisydd roi gwybod i’r diffynnydd ac unrhyw barti â budd am natur y cais a’u bod yn gallu gwneud sylwadau.
1.8 Bydd y llys yn ystyried y cais o fewn yr amser y gofynnir amdano, lle bo’n bosib, a gall wneud unrhyw orchymyn yr ystyra i fod yn briodol. Lle bynnag y bo’n bosib, bydd y llys yn rhoi cyfle i’r diffynnydd ac unrhyw barti â budd wneud sylwadau (llafar neu ysgrifenedig) cyn gwneud unrhyw orchymyn ar unrhyw gais brys. Os yw’r llys yn cyfarwyddo bod gwrandawiad llafar i’w gynnal o fewn amser penodedig, bydd cynrychiolwyr y partïon a’r Llys Gweinyddol yn cyd-drafod i drefnu’r gwrandawiad o fewn yr amser a ofynnwyd.
Adran II – ceisiadau brys am ryddhad interim
2.1 Pan fydd y cais brys yn hawliad am ryddhad interim, rhaid nodi’n glir a chryno ar ba seiliau yr hawlir y rhyddhad interim hwn.
2.2 Disgwylir i’r ceisydd fod wedi cymryd camau rhesymol i ymchwilio i faterion sy’n berthnasol i’r cais. Rhaid cefnogi’r cais gyda thystiolaeth wedi’i chynnwys mewn datganiad tyst wedi’i wirio gan ddatganiad gwirionedd. Ni ddylid cynnwys dim mwy o wybodaeth na’r hyn sydd ei angen i bwrpas y cais ond rhaid sôn am bopeth y byddai’n rhesymol i lys ei ystyried i fod yn berthnasol i’r cais.
2.3 Bydd y cais yn cael ei ystyried yn unol â pharagraff 1.8 uchod. Fodd bynnag, oherwydd y bydd efallai angen i’r llys benderfynu’r cais heb gyfeirio at y diffynnydd neu eraill a allai gael eu heffeithio’n andwyol pe bai’r rhyddhad interim y gofynnir amdano’n cael ei orchymyn, rhaid i’r ceisydd nodi popeth sy’n berthnasol i’r cwestiwn a ddylai’r rhyddhad interim gael ei roi neu beidio (materion o blaid a materion sy’n tanseilio’r cais).
2.4 Rhaid i’r cais gynnwys gorchymyn drafft yn nodi, yn glir a chryno, y rhyddhad interim y gofynnir amdano.
Adran III – ceisiadau brys yn gofyn am orchymyn i gyflymu hawliad
3.1 Rhaid i gais am gyflymu roi eglurhad clir a chryno o’r rhesymau pam fod angen cyflymu’r cais. Rhaid i’r cais gynnwys datganiad yn nodi barn y diffynnydd ac unrhyw barti â budd am y cyflymu y gofynnir amdano, neu yn niffyg hynny rhaid egluro’r camau a gymerwyd i gysylltu â’r diffynnydd ac unrhyw barti â budd i gadarnhau’r farn honno.
3.2 Rhaid i’r ceisydd ddarparu gorchymyn drafft yn nodi’r amserlen gyflymu y gofynnir amdani.
Adran IV – ceisiadau eraill am ryddhad interim
4.1 Gellir cynnwys ceisiadau eraill am ryddhad interim yn y Ffurflen Hawliad, neu drwy ffeilio hysbysiad cais (Ffurflen N244). Mae’r gofynion ym mharagraffau 2.1-2.4 uchod hefyd yn berthnasol i’r ceisiadau hyn.