CYFARWYDDYD YMARFER 54C - LLYS GWEINYDDOL (LLEOLIAD)

Adran I – cwmpas a phwrpas

1.1       Mae’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn atodol i Ran 54. Mae’n ymwneud â ble (y lleoliad) y dylid dechrau a gweinyddu hawliad gerbron y Llys Gweinyddol a ble y bydd yn cael ei benderfynu. Ei fwriad yw hwyluso mynediad at gyfiawnder fel y gellir gweinyddu a phenderfynu achosion yn y lleoliad mwyaf priodol. I’r perwyl hwn, mae’n rhoi hyblygrwydd o ran ble y gellir gweinyddu hawliadau ac o ran gallu trosglwyddo hawliadau i wahanol leoliadau.

1.2       (1) Trefnir gweinyddiaeth y Llys Gweinyddol yn ôl ardaloedd daearyddol. Yn ogystal â swyddfa ganolog y Llys Gweinyddol yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain, mae gan y Llys Gweinyddol swyddfeydd yn Birmingham, Caerdydd, Leeds a Manceinion. Gweinyddir hawliadau yn ardal Cylchdaith Canolbarth Lloegr o (a dylid eu ffeilio yn) Birmingham; gweinyddir hawliadau yng Nghymru ac yn ardal Cylchdaith Gorllewin Lloegr o (a dylid eu ffeilio yng) Nghaerdydd; gweinyddir hawliadau yn ardal Cylchdaith Gogledd-Ddwyrain Lloegr o (a dylid eu ffeilio yn) Leeds; a gweinyddir hawliadau yn ardal Cylchdaith Gogledd Lloegr o (a dylid eu ffeilio ym) Manceinion.

(2) Mae’r Llys Gweinyddol yn dilyn yr egwyddor lle mae gan hawliad gysylltiad penodol ag ardal (o ran maes pwnc, lleoliad yr hawlydd neu’r diffynnydd, neu gysylltiad arall), lle bo’n gwbl bosib dylid ei weinyddu a’i benderfynu yn yr ardal honno.

1.3       Mae rheol 7.1A yn darparu’n benodol ar gyfer hawliadau yn erbyn cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Dylid ffeilio a gwrando’r hawliadau hyn yng Nghymru oni bai fod deddfwriaeth, rheol neu gyfarwyddyd ymarfer yn nodi’n wahanol.

Adran II – lleoliad: darpariaethau cyffredinol

2.1       Ac eithrio lle daw’r achosion o dan unrhyw ddosbarth eithriedig o hawliadau a ddisgrifir ym mharagraff 3.1 isod, dylid dechrau’r achos yn swyddfa’r Llys Gweinyddol yn yr ardal y mae gan yr hawliad y cysylltiad agosaf â hi, o ystyried maes pwnc yr hawliad, lleoliad yr hawlydd neu’r diffynnydd, neu gysylltiad arall: gweler fwy am hyn isod ym mharagraff 2.5.

2.2       Os yw Ffurflen Hawliad sy’n cynnwys dosbarth eithriedig o hawliadau yn cael ei ffeilio yn un o swyddfeydd y Llys Gweinyddol y tu allan i Lundain, bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i Lundain.

2.3       Gall yr achos, naill ai ar gais parti neu wrth i’r Llys weithredu drwy achub y blaen, gael ei drosglwyddo o swyddfa’r Llys Gweinyddol lle ffeiliwyd y Ffurflen Hawliad, i swyddfa arall. Mae trosglwyddiad o’r fath yn weithred farnwrol.

2.4       Ar ôl ei ddyrannu i un o swyddfeydd y Llys Gweinyddol, bydd yr achos yn cael ei weinyddu o’r swyddfa honno ac yn cael ei benderfynu gan farnwr y Llys Gweinyddol mewn llys addas. Ar gyfer achosion wedi eu dyrannu i swyddfa ganolog y Llys Gweinyddol yn Llundain, yn y Llysoedd Barn Brenhinol fydd hyn yn digwydd. Ar gyfer achosion wedi eu dyrannu i unrhyw un o swyddfeydd eraill y Llys Gweinyddol, mater i Farnwyr Llywyddol y gylchdaith, neu eu dirprwyon, fydd pa lys i’w ddewis.

2.5       Y disgwyliad cyffredinol yw y bydd achosion yn cael eu gweinyddu a’u penderfynu yn yr ardal lle mae gan yr hawliad y cysylltiad agosaf â hi. Bydd hyn yn cael ei benderfynu ar sail maes pwnc yr hawliad, ym mha ardal y mae’r hawlydd yn byw, ac ym mha ardal y lleolir y diffynnydd neu unrhyw swyddfa neu adran berthnasol i’r diffynnydd. Yn ogystal, gallai’r llys ystyried unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill, gan gynnwys y canlynol:

(a) unrhyw reswm a roddwyd gan barti dros fod yn well ganddynt leoliad penodol

(b) hwylustod a chost teithio i wrandawiad

(c) argaeledd ac addasrwydd dulliau eraill o fynychu gwrandawiad (er enghraifft drwy gyswllt fideo)

(d) maint a natur unrhyw fudd cyhoeddus dros wrando’r achos mewn lleoliad penodol

(e) yr amser o fewn yr hyn y mae’n briodol i’r achos gael ei benderfynu

(f) a fyddai’n ddymunol gweinyddu neu benderfynu’r hawliad mewn ardal arall o ystyried faint o hawliadau a gyflwynwyd i’r Llys lle cafodd yr hawliad ei gyflwyno, ynghyd â chapasiti, adnoddau a llwyth gwaith y llys hwnnw

(g) a yw’r hawliad yn codi materion sy’n ddigon tebyg i rai sy’n codi mewn hawliad arall fel bo’n ddymunol ei benderfynu ar yr un pryd â’r hawliad arall, neu’n syth ar ei ôl

(h) a yw’r hawliad yn codi materion datganoli ac, o’r herwydd, y dylid ei benderfynu’n fwy priodol yn Llundain neu yng Nghaerdydd; a hefyd

(i) yr ardal lle mae cynrychiolwyr cyfreithiol yr hawlydd wedi eu lleoli.

2.6       Wrth roi cyfarwyddiadau o dan reol 54.10, gallai’r llys gyfarwyddo bod yr achos yn cael ei ail-ddyrannu i ardal arall i gael ei wrando (gan gymhwyso’r materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.5). Os na wneir cyfarwyddyd o’r fath, bydd yr hawliad yn cael ei wrando yn yr un ardal â’r un lle y penderfynwyd y cais am ganiatâd (p’un ai ar sail y papurau, neu mewn gwrandawiad).

Adran III – dosbarthiadau eithriedig o hawliadau

3.1       Y dosbarthiadau eithriedig o hawliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 yw—

(1) achosion y mae Rhan 76 neu Ran 79 yn berthnasol iddynt, ac er mwyn osgoi amheuaeth—

(a) achosion yn ymwneud â gorchmynion rheoli (o fewn ystyr Rhan 76);

(b) achosion cyfyngiadau ariannol (o fewn ystyr Rhan 79);

(c) achosion yn ymwneud â therfysgaeth neu derfysgwyr honedig (lle mae’n nodwedd berthnasol o’r hawliad); a

(d) achosion lle mae adfocad arbennig wedi cael ei gyfarwyddo neu y bydd yn cael ei gyfarwyddo;

(2) achosion y mae Gorchymyn RSC 115 yn berthnasol iddynt;

(3) achosion o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002;

(4) apeliadau i’r Llys Gweinyddol o dan Ddeddf Estraddodi 2003;

(5) achosion sy’n rhaid eu gwrando gan Lys Adrannol; a

(6) achosion yn ymwneud â disgyblu cyfreithwyr.

Contact

Get email alerts
Find a form
Find a court form