PRACTICE DIRECTION RELATING TO THE USE OF THE WELSH LANGUAGE IN CASES IN THE CIVIL COURTS IN OR HAVING A CONNECTION WITH WALES

The purpose of this Practice Direction is to reflect the principles of the Welsh Language Act 1993 and the Welsh Language (Wales) Measure 2011 that in the administration of justice in Wales, the English and Welsh languages should be treated on the basis of equality.

Contents of this Practice Direction
Title

1. GENERAL

1.1 This practice direction applies to civil proceedings in or having a connection with Wales.

1.2The existing practice of conducting a hearing in Wales entirely in the Welsh language on an ad hoc basis and without notice will continue to apply when all parties and witnesses directly involved at the time consent to the proceedings being so conducted.

1.3 In every case in Wales in which it is possible that the Welsh language may be used by any party or witness [or in any document which may be placed before the court], the parties or their legal representatives must inform the court of that fact so that appropriate arrangements can be made for the management and listing of the case.

1.4 Any document placed before the court in civil proceedings in or having a connection with Wales may be in the English or Welsh Language. The parties or their legal representatives must inform the court as soon as practicable if a document in the Welsh language will or may be placed before the court so that appropriate arrangements can be made.

1.5 HMCTS forms in the Welsh language are available on the justice.gov.uk website. The Welsh Language Unit of HMCTS provides translation facilities.

1.6 If costs are incurred as a result of a party failing to comply with this direction, a costs Order may be made against that party or their legal representative.

1.7 Where a case is tried with a jury, the law does not permit the selection of jurors in a manner which enables the court to discover whether a juror does or does not speak Welsh or to secure a jury whose members are bilingual to try a case in which the Welsh language may be used.

2. THE ALLOCATION QUESTIONNAIRE

2.1 In any proceedings in which a party is required to complete a directions questionnaire, that party must include details relating to the possible use of Welsh (i.e. details of any person wishing to give oral evidence in Welsh and of any documents in Welsh (e.g. documents to be disclosed under Part 31 or witness statements) which that party expects to use).

2.2 A party must include the details mentioned in paragraph 2.1 in the directions questionnaire even if that party has already informed the court of the possible use of Welsh in accordance with the provisions of section 1 above.

3. CASE MANAGEMENT

3.1 At any interlocutory hearing, the court will take the opportunity to consider whether it should give case management directions. To assist the court, a party or that party’s legal representative should draw the court’s attention to the possibility of Welsh being used in the proceedings, even where he or she has already done so in compliance with other provisions of this direction.

3.2 In any case where a party is required to complete a pre-trial check list (listing questionnaire) and has already intimated the intention to use Welsh, that party should confirm the intended use of Welsh in the pre-trial check list and provide any details which have not been set out in the allocation questionnaire.

4. LISTING BY THE COURT

4.1 The diary manager, in consultation with the Designated Civil Judge and the Liaison Judge(s) for the Welsh language, will ensure that a case in which the Welsh language is to be used is listed—

(a) wherever practicable before a Welsh speaking judge; and

(b) where translation facilities are needed, at a court with simultaneous translation facilities.

5. INTERPRETERS

5.1 Whenever an interpreter is needed to translate evidence from English to Welsh or from Welsh to English, the Court Manager in whose court the case is to be heard will take steps to secure the attendance of an interpreter whose name is included in the list of approved court interpreters.

6. WITNESSES AND JURORS

6.1 When each witness is called, the court officer administering the oath or affirmation will inform the witness that he or she may be sworn or may affirm in Welsh or English as he or she wishes.

6.2 Where a case is tried with a jury, the court officer swearing in the jury will inform the jurors in open court that each juror may take the oath or may affirm in Welsh or English as he or she wishes.

7. ROLE OF THE LIAISON JUDGE

7.1

If any question or difficulty arises concerning the implementation of this practice direction, contact should in the first place be made with the Liaison Judge(s) for the Welsh language.

CYFARWYDDYD YMARFER SY’N YMWNEUD Â DEFNYDDIO’R IAITH GYMRAEG MEWN ACHOSION YN Y LLYSOEDD SIFIL YNG NGHYMRU NEU SY’N GYSYLLTIEDIG Â CHYMRU

Diben y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yw adlewyrchu egwyddorion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 sef y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Cynnwys y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn
Teitl

1. CYFFREDINOL

1.1 Mae’r cyfarwyddyd ymarfer hwn yn berthnasol i achosion sifil yng Nghymru neu sy’n gysylltiedig â Chymru.

1.2 Bydd yr ymarfer presennol o gynnal gwrandawiad yng Nghymru yn gyfan gwbl yn y Gymraeg ar sail ad hoc a heb rybudd yn parhau’n ddilys pan fo pob parti a phob tyst sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r achos ar y pryd yn cytuno iddo gael ei gynnal felly.

1.3 Ym mhob achos yng Nghymru lle y bydd tyst neu barti o bosibl am ddefnyddio’r Gymraeg [neu lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg mewn unrhyw ddogfen a gyflwynir gerbron y llys], cyfrifoldeb y partïon neu eu cynrychiolwyr cyfreithiol yw hysbysu’r llys o hyn fel y gellir gwneud trefniadau priodol ar gyfer rheoli a rhestru’r achos.

1.4 Gall unrhyw ddogfen a gyflwynir gerbron y llys mewn achos sifil yng Nghymru neu sy’n gysylltiedig â Chymru fod yn Saesneg neu yn y Gymraeg.  Rhaid i’r partïon neu eu cynrychiolwyr cyfreithiol hysbysu’r llys cyn gynted â’i bod yn ymarferol os bydd neu efallai bydd dogfennau yn yr iaith Gymraeg yn cael eu cyflwyno gerbron y llys fel y gellir gwneud trefniadau priodol.

1.5 Mae fersiynau iaith Gymraeg o ffurflenni GLlTEM ar gael ar wefan justice.gov.uk. Mae Uned Iaith Gymraeg GLlTEM yn darparu gwasanaethau cyfieithu.

1.6 Os achosir costau yn sgil methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd hwn, gellir codi Gorchymyn Costau yn erbyn y parti neu ei gynrychiolydd cyfreithiol.

1.7 Pan fydd achos yn cael ei brofi gyda rheithgor, nid yw’r gyfraith yn caniatáu dethol rheithgor mewn modd sy’n galluogi’r Llys i ganfod a yw Rheithiwr yn siarad Cymraeg ai peidio nac i sicrhau Rheithgor y mae ei aelodau yn ddwyieithog i wrando achos lle o bosibl y defnyddir y Gymraeg.

2. YR HOLIADUR CYFARWYDDIADAU

2.1 Mewn unrhyw achos lle y mae gofyn i barti lenwi holiadur cyfarwyddiadau, rhaid iddo gynnwys manylion ynghylch defnydd posibl o’r Gymraeg, (h.y. manylion unrhyw berson a ddymunai roi tystiolaeth lafar yn y Gymraeg ac unrhyw ddogfennau yn y Gymraeg (e.e. dogfennau i’w datgelu dan Ran 31 neu ddatganiadau tystion) y mae’r parti hwnnw’n disgwyl eu defnyddio).

2.2 Rhaid i barti gynnwys y manylion a nodir ym mharagraff 2.1 yn yr holiadur cyfarwyddiadau, hyd yn oed os yw eisoes wedi hysbysu’r llys am ddefnydd posibl o’r Gymraeg yn unol â gofynion adran 1 uchod.

3. RHEOLI ACHOSION

3.1 Mewn unrhyw wrandawiad yng nghwrs achos bydd y llys yn manteisio ar y cyfle i ystyried a ddylai roi cyfarwyddiadau rheoli achos. I gynorthwyo’r llys, dylai parti neu ei gynrychiolydd cyfreithiol dynnu sylw’r llys at y posibilrwydd y gallai’r Gymraeg gael ei defnyddio yn yr achos, hyd yn oed os yw eisoes wedi gwneud hynny wrth gydymffurfio â gofynion eraill y cyfarwyddyd hwn.

3.2 Mewn unrhyw achos pan fydd gofyn i barti lenwi rhestr wirio cyn treial (holiadur rhestru) a’r parti hwnnw eisoes wedi nodi ei fwriad i ddefnyddio’r Gymraeg, dylai gadarnhau ei fwriad i ddefnyddio’r Gymraeg yn y rhestr wirio cyn treial, a rhoi unrhyw fanylion na chafodd eu nodi yn yr holiadur dyrannu.

4. RHESTRU GAN Y LLYS

4.1 Bydd rheolwr y dyddiadur, wrth ymgynghori â’r Barnwr Sifil Dynodedig a’r Barnwr/Barnwyr Cyswllt yr iaith Gymraeg, yn sicrhau bod achos lle defnyddir yr iaith Gymraeg yn cael ei restru—

(a) lle bynnag y bydd hynny’n ymarferol bosib, gerbron barnwr Cymraeg ei iaith; a

(b) lle bo angen cyfleusterau cyfieithu, mewn llys gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd.

5. CYFIEITHWYR

5.1 Pryd bynnag y bydd angen cyfieithydd i gyfieithu tystiolaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, bydd y Rheolwr Llys lle y cynhelir yr achos yn sicrhau y trefnir i gyfieithydd, y mae ei enw ar restr y llys o gyfieithwyr cymeradwy, fod yn bresennol.

6. TYSTION A RHEITHWYR

6.1 Wrth i bob tyst gael ei alw, bydd y swyddog llys sy’n gweinyddu’r llw neu’r cadarnhad yn hysbysu’r tyst y gall ef dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.

6.2 Pan gaiff achos ei brofi gan reithgor, bydd y swyddog llys sy’n gweinyddu llwon y rheithwyr yn hysbysu’r rheithwyr mewn llys agored y caiff pob rheithiwr dyngu llw neu gadarnhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn ôl ei ddymuniad.

7. RÔL Y BARNWR CYSWLLT

7.1 Os cyfyd unrhyw gwestiwn neu broblem ynghylch gweithredu’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn, dylid yn y lle cyntaf gysylltu â’r Barnwr/Barnwyr Cyswllt dros faterion y Gymraeg.”

1. GENERAL
2. THE ALLOCATION QUESTIONNAIRE
3. CASE MANAGEMENT
4. LISTING BY THE COURT
5. INTERPRETERS
6. WITNESSES AND JURORS
7. ROLE OF THE LIAISON JUDGE
1. CYFFREDINOL
2. YR HOLIADUR CYFARWYDDIADAU
3. RHEOLI ACHOSION
4. RHESTRU GAN Y LLYS
5. CYFIEITHWYR
6. TYSTION A RHEITHWYR
7. RÔL Y BARNWR CYSWLLT